Mae gweld bod 25 o chwaraewyr rygbi Merched Cymru wedi derbyn cytundebau proffesiynol llawn amser yn “hwb enfawr” i gêm y merched ar lawr gwlad, meddai un o gyn-chwaraewyr y tîm cenedlaethol.
Cafodd deuddeg o gytundebau llawn amser eu rhoi gan Undeb Rygbi Cymru ym mis Ionawr 2022, ond erbyn hyn mae 25 o chwaraewyr tîm y merched wedi derbyn cytundebau proffesiynol.
Gyda thocynnau gêm merched Cymru yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn nesaf (Ebrill 15) wedi gwerthu allan hefyd, mae Teleri Wyn Davies yn credu bod y gamp yn mynd o nerth i nerth.
Mae lle i dros 12,000 ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, ac mae disgwyl i’r record gafodd ei gosod yng ngêm agoriadol Cymru yn y Chwe Gwladol yn erbyn Iwerddon, pan oedd 4,962 o bobol yn bresennol, gael ei thorri’r penwythnos nesaf.
‘Cam cyntaf’
Gan ei bod hi’n bosib i ferched chwarae rygbi’n broffesiynol heb orfod cael swydd arall nawr mae’n dangos i eraill ei bod hi’n bosib cael bywoliaeth drwy’r gamp, meddai Teleri Wyn Davies, sy’n dod o’r Bala ond yn byw yng Nghaernarfon ac yn aelod o Dîm Rygbi Merched Caernarfon.
“Pam oeddwn i yn chwaree i sgwad Cymru Semi-Professional roedd gen i waith llawn amser fel cyfreithwraig,” meddai’r chwaraewr 25 oed wrth golwg360.
“Roeddwn i’n teithio gymaint, fyswn i’n mynd ar dair awr o gwsg bob nos.
“Mae yna fwy o gyfleoedd rŵan na phan oeddwn i’n ifanc, mae yna fwy dimau.
“Dw i’n meddwl bod bob dim yn dechrau troi am y gorau rŵan bod y cytundebau proffesiynol yma wedi cael eu rhoi.
“Dw i’n gobeithio dros y blynyddoedd y gwneith pethau fynd o nerth i nerth.
“Cam cyntaf ydy hwn, mae pethau am ddatblygu mwy.
“Mae dyfodol merched rygbi yng Nghymru yn edrych fel ei fod am fod yn rhywbeth llwyddiannus os fyddan nhw’n cario ymlaen ar y trywydd yma.
“Mae o’n rhywbeth reit gyffrous.”
Gêm Lloegr yn “her”
Mae Lloegr a Chymru wedi curo’u dwy gêm agoriadol yn y bencampwriaeth, a bydd y gêm yn dipyn o her i dîm Ioan Cunningham gan fod chwaraewyr Lloegr wedi bod yn chwarae’n broffesiynol ers dechrau 2019.
“Dw i’n meddwl ei fod o’n beth hollol, hollol briliant bod ticedi gêm rygbi merched Cymru yn erbyn Lloegr wedi gwerthu allan oherwydd mae’n dangos bod y genod yma rŵan wedi cael cytundebau proffesiynol,” meddai.
“Mae safon y chware wedi codi gymaint ers iddyn nhw gael y cytundebau proffesiynol.
“Gan fod eu chwarae nhw wedi gwella a datblygu gymaint mae mwy yn mynd i wylio nhw.
“Mae’r gem yn erbyn Lloegr wythnos nesaf am fod yn fwy o sialens iddyn nhw.
“Mae Lloegr wedi bod yn broffesiynol ers blynyddoedd, mae eu safon nhw wedi bod llawer uwch.
“I fod yn gwerthu allan mewn gêm yn erbyn Lloegr, mae hynny’n beth mawr yn rygbi merched.”
Y gem wedi datblygu
Mae’r tocynnau’n gwerthu allan yn arwydd o sut mae’r gem wedi datblygu, ac am fod yn hwb i boblogrwydd y gêm ar lawr gwlad, meddai Teleri Wyn Davies.
Yn nyddiau ysgol Teleri Wyn Davies doedd y gem ddim yn boblogaidd ymysg merched, ond bellach mae wedi dechrau dod yn brif ffrwd.
“Roedd andros o stigma adeg hynny am ferched yn chware rygbi.
“Erbyn rŵan gan fod nhw’n gweld bod genod yn gallu gwneud bywoliaeth allan o chware rygbi, mae o fatha bod o’n rhywbeth reit cŵl wedi mynd.
“Lle pam oeddwn i’n ysgol doedd genod ddim yn chware rygbi, doedd ddim yn beth cwl i wneud.
“Doedd o ddim yn rhywbeth roedd hogiau yn meddwl bod genod yn gallu gwneud, doedd ddim yn rhywbeth oedd yn impresio hogiau.
“Doedd o ddim yn beth ‘girly’ i wneud, doedd o ddim yn boblogaidd o gwbl.
“Erbyn rŵan ti’n gweld bod rygbi merched ar hyd Cymru i gyd, clybiau lleol, ysgolion mae wedi mynd yn boblogaidd iawn.”
Ers 2021, mae Chwe Gwlad y Merched wedi cael ei chynnal ar adeg gwahanol i bencampwriaeth y dynion, sy’n golygu bod y gemau wedi bod yn cael mwy o gyhoeddusrwydd nag y bu.
“Yn amlwg mae llai o ddiddordeb yn rygbi merched na dynion,” ychwanegodd Teleri Wyn Davies.
“Dw i’n meddwl ei fod oherwydd bod llai o gyhoeddurwydd wedi bod i gemau merched na dynion dros y blynyddoedd.”