Mae tîm criced Morgannwg wedi brwydro i sicrhau gêm gyfartal ar ddiwrnod olaf gêm Bencampwriaeth gynta’r tymor yn erbyn Swydd Gaerloyw y gallen nhw’n hawdd iawn fod wedi’i hennill.

Roedd Morgannwg yn cwrso 331 am fuddugoliaeth ar y diwrnod olaf, ond doedd y nod o fewn cyn lleied â 46 pelawd fyth am fod yn bosib.

Cafodd yr ymwelwyr eu bowlio allan am 165 yn eu batiad cyntaf, wrth i’r Iseldirwr Timm van der Gugten gipio’i 200fed wiced dosbarth cyntaf i Forgannwg wrth gipio pump yn y batiad, gyda dim ond yr Awstraliad Marcus Harris (59) yn cyfrannu i’r Saeson.

Adeiladodd Morgannwg flaenoriaeth batiad cyntaf swmpus wrth sgorio 404, gyda chanred yr un i Kiran Carlson (106) a Billy Root (117 heb fod allan), gyda’r agorwr Eddie Byrom hefyd yn cyfrannu 81.

Roedd sawl perfformiad campus ymhlith bowlwyr Swydd Gaerloyw, serch hynny, gyda Tom Price yn cipio pedair wiced a Marchant de Lange, cyn-fowliwr Morgannwg yn cipio tair.

Wrth i’r gêm symud i ffwrdd oddi wrthyn nhw, brwydrodd Swydd Gaerloyw yn galed i aros ynddi, gyda Harris (148) a’r capten Grame van Buuren (110), ynghyd â Chris Dent (78) yn niweidio gobeithion y sir Gymreig.

Cwrso’n ofer

Roedd gan y Saeson flaenoriaeth o 330 erbyn iddyn nhw gau eu hail fatiad ar 569 am saith, felly, a gobeithion Morgannwg yn deilchion.

Dechreuodd eu batiad yn y modd gwaethaf posib, wrth i David Lloyd gael ei ddal gan Marcus Harris oddi ar fowlio Price am chwech i adael ei dîm yn chwech am un.

Roedden nhw’n 35 am ddwy pan gafodd Colin Ingram ei fowlio gan y troellwr llaw chwith Zafar Gohar o fewn wyth pelawd, ac yn 38 am dair yn y belawd ganlynol pan gafodd Kiran Carlson ei ddal gan Jack Taylor oddi ar fowlio Tom Price oddi ar belen ola’r sesiwn cyn te.

Adeiladodd Byrom (36 heb fod allan) a Root (39 heb fod allan) bartneriaeth o hanner cant yn ystod y sesiwn olaf, ac erbyn diwedd yr ornest roedd Morgannwg yn 110 am dair.

Ymateb Morgannwg 

“Roeddan ni’n hapus iawn hefo’r ddau ddiwrnod cyntaf, fedrai o ddim bod wedi mynd lawr gwell,” meddai Matthew Maynard, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Ond roedd y bartneriaeth agoriadol honno i Swydd Gaerloyw wedi mynd â’r bygythiad allan o’r bêl newydd a ddaru nhw chwarae’n a pharhau i adeiladu partneriaethau.

“Roedd y llain yn ddof iawn, ond â bod yn deg hefo’r tirmyn maen nhw wedi gwneud gwaith gwych efo’r tywydd rydan ni wedi’i gael.

“Ddaru Swydd Gaerloyw chwarae’n dda iawn i gael eu hunain allan o sefyllfa anodd, ddaru nhw fynd â’r gêm i ffwrdd a rhoi siawns iddyn nhw eu hunain, ond arhosodd Eddie [Byrom] a Billy [Root] yn gadarn i weld diwedd y batiad yn dod a sicrhau’r gêm gyfartal.”

Dechrau’r tymor criced: carreg filltir ar y gorwel, a’r capten yn llawn gobaith

Alun Rhys Chivers

Wrth i Forgannwg herio Swydd Gaerloyw, mae un bowliwr ar drothwy 200 o wicedi i’r sir, ac mae’r capten yn llawn gobaith