Jon Rahm, y golffiwr o Wlad y Basg, yw enillydd cystadleuaeth fawr y Meistri yn Augusta eleni, a hynny ar Ddiwrnod Cenedlaethol y wlad.
Yn dilyn ei fuddugoliaeth fawr, fe wnaeth e dalu teyrnged i’w arwr, y Sbaenwr Seve Ballesteros, gan ddweud ei fod e’n teimlo presenoldeb y diweddar golffiwr ar y cwrs gyda fe.
Trwy gyd-ddigwyddiad, daeth buddugoliaeth Rahm ddeugain mlynedd union ers i Ballesteros gipio’i ail fuddugoliaeth yntau yn Augusta, ac fe fyddai hefyd wedi bod yn dathlu ei ben-blwydd yn 66 oed.
Bu farw Ballesteros o ganser yr ymennydd yn 2011, ac roedd yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth gyfan o chwaraewyr yn Sbaen, gan ennill dau dlws y Meistri a thri thlws mawr arall.
“Roedd hon i Seve,” meddai Jon Rahm, sy’n hanu o Barrika.
“Roedd e i fyny yn fan’na yn fy helpu i, a helpu wnaeth e hefyd.”
Roedd Jon Rahm ar y blaen o ddwy ergyd yn mynd i mewn i’r rownd olaf, aeth e ar y blaen ar y chweched twll a wnaeth e ddim ildio’i flaenoriaeth wedi hynny.
Enillodd e Bencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau yn 2021, ac roedd e ymhlith y ffefrynnau i ennill yn Augusta eleni.
Mae ei fuddugoliaeth yn golygu y bydd e’n dychwelyd i frig y rhestr ddetholion.