Mae gan ddau o dimau pêl-droed Cymru yng nghynghreiriau Lloegr gemau mawr heddiw ar Ddydd Llun y Pasg (Ebrill 10).

Gallai’r ornest rhwng Wrecsam a Notts County ar y Cae Ras fod yn dyngedfennol yn y ras rhwng y ddau dîm i ennill y Gynghrair Genedlaethol, tra bod angen triphwynt mawr ar yr Adar Gleision gartref yn erbyn Sunderland wrth iddyn nhw frwydro i aros yn y Bencampwriaeth.

Mynd am ddyrchafiad

Daw gêm fawr Wrecsam wythnos yn unig ar ôl iddyn nhw gyrraedd y garreg filltir o 100 o bwyntiau yn y gynghrair – y pumed tîm erioed i gyflawni hynny ar draws y pum adran uchaf.

Mae Notts County bellach wedi cyflawni’r un gamp – y tro cyntaf erioed i ddau dîm gyrraedd y garreg filltir yn ystod yr un tymor – wrth i’r ras am dlws y Gynghrair Genedlaethol boethi.

Cyn diwedd y mis, gallai’r ddau dîm hefyd fod wedi torri’r record o 106 am y nifer fwyaf o bwyntiau yn ystod un tymor.

Gyda dim ond un tîm yn cael ennill dyrchafiad awtomatig, bydd yn rhaid i un o’r ddau dîm aros i gael mynd i’r gemau ail gyfle.

Daw’r ornest hon yn fuan ar ôl i dîm Phil Parkinson golli’n annisgwyl o 3-1 yn erbyn Halifax, er eu bod nhw ar y blaen o 1-0 ar yr egwyl.

Ennill o 3-0 yn erbyn Wealdstone oedd hanes Notts County yn eu gêm ddiwethaf, serch hynny.

Y tro diwethaf i Wrecsam groesawu Notts County i’r Cae Ras, roedd Phil Parkinson wrth y llyw am y tro cyntaf yn y stadiwm honno, a daeth y gêm i ben yn gyfartal 1-1 diolch i gôl hwyr Paul Mullin, fydd yn chwarae gêm rhif 400 ei yrfa heddiw.

Yn y gôl, bydd Ben Foster yn chwarae gêm rhif 525 ei yrfa.

Mae gan Wrecsam a Notts County 100 o bwyntiau yr un, ond mae Wrecsam yn yr ail safle wedi chwarae un gêm yn llai na’u gwrthwynebwyr ar y brig.

Gemau eraill

Mae gan Gaerdydd gêm fawr hefyd yn erbyn Sunderland, wrth i dîm Sabri Lamouchi geisio osgoi’r gwymp o’r Bencampwriaeth.

Maen nhw’n bedwaredd ar bymtheg yn y tabl, dri safle ac un pwynt yn unig uwchlaw safleoedd y gwymp, ond maen nhw wedi chwarae un gêm yn llai na Reading, sydd uchaf ymhlith safleoedd y gwymp.

Dechrau digon cymysg mae Sabri Lamouchi wedi’i gael yn rheolwr.

Ar eu tomen eu hunain o dan y Ffrancwr, mae’r Adar Gleision wedi ennill dwy gêm ac wedi cael un gêm gyfartal, gyda cholled hefyd o 3-2 yn erbyn Abertawe.

Abertawe a Chasnewydd

Bydd yr Elyrch yn teithio i Wigan, sydd ar waelod y Bencampwriaeth, ar ôl i dîm Russell Martin gael gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Coventry yn Stadiwm Swansea.com Ddydd Gwener y Groglith.

Mae Casnewydd yn teithio i Stockport, sy’n ceisio sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle’r Ail Adran.