Mae tîm pêl-droed Wrecsam wedi cael buddugoliaeth hollbwysig o 3-2 dros Notts County wrth i’r ras am ddyrchafiad i’r Gynghrair Bêl-droed boethi.

Mae’n golygu bod gan Wrecsam 103 o bwyntiau ar frig y tabl, gyda’u gwrthwynebwyr yn ail gyda 100, ond mae’r tîm Cymreig wedi chwarae un gêm yn llai.

Sgoriodd Elliot Lee y drydedd gôl dyngedfennol, ac fe wnaeth y golwr Ben Foster arbed cic o’r smotyn i gipio’r triphwynt a chodi ei dîm i frig y tabl uwchlaw’r gwrthwynebwyr.

Aeth y Saeson ar y blaen drwy gic rydd John Bostock cyn i Paul Mullin greu gôl i Jacob Mendy i unioni’r sgôr, 1-1.

Bu’n rhaid i Foster arbed cic Cedwyn Scott o’r smotyn i atal Notts County rhag cipio pwynt yn y pen draw.

“Aethon ni â 4,500 [o gefnogwyr] oddi cartref i Halifax yr wythnos ddiwethaf, wnaethon ni berfformio’n ofnadwy ac roedd angen rhywbeth mawr heddiw, ac mae’n anhygoel,” meddai Ben Foster wrth BT Sport.

“Rydych chi’n plymio ac yn gobeithio am y gorau,” meddai wedyn am ei arbediad o’r smotyn.

“Os ewch chi’r ffordd iawn a chael llaw arni, byddech chi’n hoffi meddwl y gwnewch chi ei harbed hi.

“O fynd ar ei hôl hi o 1-0, roedden ni braidd yn siomedig ond yn yr ail hanner… anhygoel!”

Yn ôl Paul Mullin, roedd Wrecsam yn sylweddoli na fyddai’r gêm fyth ar ben tan y chwiban olaf.

“Roedd yn berfformiad gwych, ac rydyn ni mor falch,” meddai.

Abertawe’n cosbi Wigan

Sgoriodd Joel Piroe ddwywaith i Abertawe, wrth iddyn nhw guro Wigan oddi cartref o 2-0 yn y Bencampwriaeth.

Gallai’r Iseldirwr yn hawdd iawn fod wedi cwblhau ei hatric yn yr hanner cyntaf pan darodd e’r postyn.

Mae Wigan ar waelod y tabl ac yn brwydro i aros yn yr adran, ac maen nhw wyth pwynt i ffwrdd o’r safleoedd diogel gyda dim ond pum gêm yn weddill.

Pe bai perfformiadau a chanlyniadau’r Elyrch wedi bod yn fwy cyson, gallen nhw fod wedi bod yn mynd am safle tipyn uwch na chanol y tabl ar ddiwedd y tymor.

Trafferthion Caerdydd yn gwaethygu

Colli oedd hanes Caerdydd gartref yn erbyn Sunderland, wrth i Dennis Cirkin sgorio unig gôl y gêm ar ôl 61 munud, a hynny ar ôl i gic rydd Alex Pritchard daro’r postyn.

Mae’r Adar Gleision bellach yn 21ain yn y tabl, un pwynt uwchlaw Reading a safleoedd y gwymp.

Mae tîm Sabri Lamouchi bellach wedi colli tair gêm yn olynol, tra bod y canlyniad yn rhoi llygedyn o obaith i’r ymwelwyr wrth iddyn nhw geisio cyrraedd y safleoedd ail gyfle.

Crasfa i Gasnewydd

Cafodd Casnewydd grasfa o 4-0 oddi cartref yn Stockport, sy’n mynd am ddyrchafiad i’r Adran Gyntaf.

Sgoriodd Kyle Wootton ddwy gôl yn yr hanner cyntaf, cyn i Jack Stretton a Kyle Knoyle ddyblu mantais eu tîm wedi’r egwyl.

Mae’r Alltudion bellach yn ddeunawfed yn y tabl, tra bod Stockport yn hawlio’r safle dyrchafiad awtomatig olaf ar hyn o bryd.

Gêm fawr i Wrecsam

Maen nhw’n herio Notts County, tra bod gan Gaerdydd gêm fawr yn y ras i osgoi’r gwymp, gydag Abertawe a Chasnewydd hefyd yn chwarae