Mae Clwb Rygbi’r Harlequins wedi denu Dillon Lewis, prop Cymru, o Rygbi Caerdydd ar gyfer tymor 2023-24.

Enillodd ei hanner canfed cap dros ei wlad yn y gêm yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Dechreuodd ei yrfa gyda Phontypridd, cyn chwarae i Gaerdydd am y tro cyntaf yn 2014, gan fynd yn ei flaen i gynrychioli’r clwb 88 o weithiau.

Enillodd e’r Chwe Gwlad gyda Chymru dan 20 yn 2016 a gyda’r prif dîm cenedlaethol yn 2019.

Enillodd ei gap cyntaf dros ei wlad fel eilydd yn erbyn Tonga yn 2017.

‘Dw i ar ben fy nigon’

“Dw i ar ben fy nigon o fod wedi arwyddo yma, ac alla i ddim aros i gael bwrw iddi yn yr haf,” meddai Dillon Lewis.

“Dw i’n edrych ymlaen at gwrdd â’r bois a chael chwarae yn y Stoop.”

Dywed mai eu dull o chwarae rygbi, ynghyd â diwylliant y clwb, oedd wedi ei ddenu at yr Harlequins yn bennaf.

“Dw i wedi cyffroi o gael y cyfle i weithio gydag Adam Jones a phobol fel Joe Marler a Will Collier,” meddai.

“Mae gyda fi ddyheadau mawr i wella fel chwaraewr.”

‘Croeso i’r Harlequins’

“Fe welais i fe gyntaf yn chwarae i Academi Rygbi Caerdydd wyth mlynedd yn ôl, a gallwn i weld ar unwaith ei fod e am fod yn chwaraewr da iawn,” meddai’r Cymro Adam Jones, sy’n hyfforddwr sgrymio a symudiadau yr Harlequins.

“Mae e’n ymuno â phwll talentog iawn o bropiau yn yr Harlequins, a gyda chryn dipyn o gystadleuaeth am lefydd, byddan nhw’n gwthio’i gilydd.

“Dw i’n edrych ymlaen at groesawu Dillon yn yr haf, a’i helpu i ddatblygu ei sgrymio i berfformio i’r Quins ac i Gymru.

“Croeso i’r Harlequins, Dillon!”

  • Ers y cyhoeddiad am Dillon Lewis, mae Rygbi Caerdydd wedi cadarnhau y bydd y maswr Jarrod Evans hefyd yn ymuno â’r Harlequins y tymor nesaf.