Wrth i’r tymor criced sirol ddechrau yr wythnos hon (dydd Iau, Ebrill 6), mae Morgannwg yn herio Swydd Gaerloyw yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd, ac mae’r capten David Lloyd wedi bod yn siarad â golwg360 am ei obeithion ar gyfer Pencampwriaeth y Siroedd eleni.
Bydd y gogleddwr hefyd wrth y llyw yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, gyda Kiran Carlson o Gaerdydd yn arwain y tîm yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London.
Rhagflas o’r gêm
Mae Timm van der Gugten, y bowliwr cyflym o’r Iseldiroedd, yn llygadu ei 200fed wiced dosbarth cyntaf i’r sir, ac mae angen un wiced arno i gyrraedd y garreg filltir honno.
Mae hanes o blaid yr ymwelwyr mewn gemau rhwng y ddwy sir, a hwythau wedi ennill tair allan o’r pedair gêm ddiwethaf ym mhrifddinas Cymru.
Roedd yr ymwelwyr yn fuddugol o ddeg wiced yn 2021, er i Hamish Rutherford a David Lloyd adeiladu partneriaeth o 136 i Forgannwg.
Yn 2018, sgoriodd Jack Taylor 112 i’r Saeson gyda Craig Miles yn cipio wyth wiced, gyda’r gêm yn 2017 yn gorffen yn gyfartal diolch i 191 gan Kiran Carlson i Forgannwg, ddaeth yn agos iawn at fod y chwaraewr ieuengaf yn hanes y sir i sgorio canred a chanred dwbwl.
Dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd ers 2013, a hynny o wyth wiced wrth i Jim Allenby gipio pedair a sgorio 85 gyda’r bat, ac roedd hanner canred yr un i Chris Cooke a Murray Goodwin.
Roedd Morgannwg yn fuddugol yn 2012, 2011 a 2010, a’r ddwy olaf o’r rheiny’n fuddugoliaethau swmpus, o 189 o rediadau ac o fatiad a phedwar rhediad.
Llygadu dyrchafiad eto
“Yn amlwg, yn y stwff pedwar diwrnod y llynedd, ddaru ni wneud yn dda,” meddai David Lloyd.
“Roedden ni’n amlwg yn siomedig o fethu gorffen y gwaith a chael dyrchafiad, sef ein targed ni ar ddechrau’r tymor, ond dw i’n meddwl y medrwn ni ddysgu dipyn o hynny.
“O ran y stwff da ddaru ni wneud y llynedd, sut allwn ni wella ar hynny, a lle gallwn ni wella o ran y meysydd doeddan ni ddim cystal?
“Mae’r hogiau wedi cyffroi o gael cychwyn, mae gennon ni wynebau ffres felly mi fydd grŵp da o chwaraewyr i ddewis o’u plith.
“Mae pawb yn gwneud ymdrech, felly mae’n adeg gyffrous.”
Am y tro cyntaf eleni, bydd y prif hyfforddwr Matthew Maynard yn canolbwyntio ar y Bencampwriaeth yn dilyn penodi Mark Alleyne i ofalu am y tîm yn y cystadlaethau undydd.
Yn ôl David Lloyd, bydd hynny o fudd i Forgannwg yn y gemau pedwar diwrnod hefyd.
“Mae Matt wedi bod yn anhygoel,” meddai.
“Mae’r ffaith ein bod ni wedi tyfu fel carfan yn y stwff pedwar diwrnod yn dda iawn.
“Am wn i, o’i ran o, mae’n ein galluogi ni i ganolbwyntio fel ein bod ni’n gwybod lle’r ydan ni o ran hynny.
“Mae’r tymor am fod yn hir, rydach chi’n teithio i bob man a’r gemau’n dod yn gyflym, felly mae’r hyfforddwr yn gallu bod yn 100% drwy’r amser ac mae’n rhoi ffresni i ni.
“Mae gennon ni floc o chwe gêm pedwar diwrnod, felly bydd hynny’n hanfodol ac wedyn rydan ni’n mynd i mewn i’r gemau pêl wen felly bydd y cyfuniad yn un da.
“Mae gennon ni ddau hyfforddwr da iawn.”
O ran ennill dyrchafiad, mae David Lloyd yn pwysleisio fod angen edrych ar wendidau’r tymhorau aeth heibio er mwyn nodi lle mae modd gwella.
“Roeddan ni’n rheoli’r gêm oddi cartref yn erbyn Durham, bowliodd [Matt] Potts yn dda iawn, felly mae’n fater o sut fedrwn ni leihau’r math yna o gamgymeriadau.
“Ac wedyn y gêm yn Lord’s [yn erbyn Middlesex] lle digwyddodd pethau’n eithaf cyflym, felly sut fedrwn ni osgoi’r math yna o sefyllfaoedd? Weithiau, fedrwch chi ddim, ond sut fedrwn ni ddod drwyddi a chael gemau cyfartal ar adegau anodd?
“Ar y cyfan, ddaru ni chwarae criced da iawn a chafodd Sam Northeast dymor rhagorol, ac roedd Hoges [Michael Hogan] a gweddill yr hogiau’n dda iawn, sy’n rhoi mwy o dân i ni eleni o ran sut fedrwn ni wella.
“Rydan ni eisiau dyrchafiad, mae gennon ni’r garfan i wneud hynny a’r staff cynorthwyol a’r cyfleusterau, felly dw i’n meddwl mai dyna’r brif nod eto eleni.”
Llenwi esgidiau Michael Hogan
Daeth cadarnhad ddiwedd y tymor diwethaf fod Michael Hogan, y bowliwr cyflym profiadol, yn ymddeol ar ôl degawd gyda Morgannwg.
Ond fe wnaeth yr Awstraliad, oedd yn cynrychioli’r sir fel chwaraewr cartref, dro pedol a chyhoeddi ei fod e wedi ymuno â Chaint, lle bydd yn hyfforddi’r chwaraewyr ifainc hefyd.
Bydd gan Forgannwg esgidiau mawr i’w llenwi, ac un sy’n debygol o geisio eu llenwi yw Timm van der Gugten.
Ond yn ôl David Lloyd, bydd cyfrifoldeb ar y bowlwyr i gyd.
“Roedd o’n chwaraewr anhygoel i ni, ac yn rywun fedrech chi ddibynnu arno fo o hyd,” meddai.
“Ond rydan ni lle’r ydan ni.
“Mae gennon ni chwaraewyr rŵan fydd â’r cyfle i lenwi ei rôl o, mae hi’n rôl anodd i’w llenwi wrth gwrs, ond mae gennon ni’r chwaraewyr sy’n medru codi’u dwylo a rhoi cynnig arni.
“Mae’n gyfnod cyffrous iddyn nhw oherwydd mae’n rhoi’r cyfle i rywun arall, felly mae o’n lle da i fod.
“Dw i ddim yn meddwl fydd unrhyw bwysau, mae gennon nhw i gyd y cyfle i fod yn arwain yr ymosod.
“Mae gennon ni fowlwyr da iawn, felly mae’n gyfle cyffrous i’r hogiau hynny i godi’u dwylo a dweud, ‘Ie, fedrith fod yn fi’.
“Felly dw i ddim yn meddwl fydd o’n fater o’r hogiau’n ei ofni fo, mae o’n gyfle gwych.”
Disgwyl gêm anodd
Yn un o’r timau oedd wedi gostwng o Adran Gynta’r Bencampwriaeth, mae David Lloyd yn disgwyl gêm anodd i ddechrau yn erbyn Swydd Gaerloyw.
“Daethon nhw i lawr o’r Adran Gyntaf y llynedd, felly mae hi am fod yn ddechrau anodd, ond rydan ni adref ac mae gennon ni garfan lawn i ddewis ohoni, felly mae pawb yn edrych ymlaen at y gêm gyntaf.”
Mae sylwadau’r capten wedi’u hategu gan Matthew Maynard.
“Mae Swydd Gaerloyw wedi bod yn dîm da at ei gilydd erioed.
“Maen nhw wedi colli [David] Payne, sydd allan ar ddechrau’r tymor, a dw i’n meddwl bod [Ryan] Higgins wedi bod yn chwaraewr anferth iddyn nhw ac mae o wedi mynd i Middlesex.
“Byddan nhw’n golled iddyn nhw, ond mae gennon nhw nifer… Mae Tom Price yn chwaraewr amryddawn ifanc da iawn, a ddaru o wneud yn dda ddiwedd y llynedd, felly dw i’n meddwl y bydd llawer o obeithion o’i ran o.
“Maen nhw’n dîm sy’n amlwg wedi bod yn chwarae yn yr Adran Gyntaf, ac maen nhw wedi dod i lawr un adran ac mae’n bosib y byddan nhw’n meddwl ei bod hi ychydig yn haws, ond mi fyddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n barod am y frwydr.”
Tîm Morgannwg
Bydd Morgannwg heb eu seren tramor Marnus Labuschagne ar ddechrau’r tymor, wrth i’r sir aros iddo deithio o Awstralia, a bydd Colin Ingram yn cymryd ei le ymhlith y batwyr.
Bydd Michael Neser, y bowliwr cyflym o Awstralia, hefyd yn glanio yng Nghymru yr wythnos nesaf.
Mae disgwyl i Harry Podmore, fu ar fenthyg gyda Morgannwg yn y gorffennol, chwarae ei gêm sirol gyntaf ers dychwelyd i Gymru ar gyfer y tymor hwn.
Yr ymwelwyr
Fydd Dale Benkenstein, prif hyfforddwr Swydd Gaerloyw, ddim yn teithio gyda’r garfan ar gyfer y gêm oherwydd profedigaeth yn y teulu.
Mae’r gŵr o Dde Affrica wedi dychwelyd i’w famwlad, ac fe fydd yr is-hyfforddwr Will Porterfield yn camu i’r bwlch yn y cyfamser.
Carfan Morgannwg: K Carlson, B Root, J Harris, S Northeast, A Salter, H Podmore, J McIlroy, C Ingram, C Cooke, T van der Gugten, D Lloyd (capten), D Douthwaite, E Byrom
Carfan Swydd Gaerloyw: G van Buuren (capten), J Bracey, B Charlesworth, M de Lange, C Dent, Zafar Gohar, M Hammond, M Harris, O Price, T Price, J Shaw, A Singh Dale, J Taylor
Darllenwch gyfweliadau estynedig arbennig gyda’r ddau brif hyfforddwr, Matthew Maynard a Mark Alleyne, yn rhifyn golwg yr wythnos hon: