Gyda’r tymor criced yn cychwyn yr wythnos hon, mae Alun Rhys Chivers yn bwrw golwg ar obeithion prif dîm Cymru…

Byddai cyrraedd Diwrnod y Ffeinals, cael cynrychiolaeth yn y Can Pelen a gwthio am ddyrchafiad yn golygu tymor llwyddiannus i Glwb Criced Morgannwg, yn ôl y Cyfarwyddwr Criced a’r ddau brif hyfforddwr sydd wedi bod yn siarad â Golwg ar drothwy’r tymor newydd.