Aeth bron i dair blynedd heibio ers i Jonathan Edwards gael ei wahardd o Blaid Cymru, ond mae ei achos yn dal i gynhyrfu’r dyfroedd.

Mae hollt amlwg o fewn y Blaid, gyda rhai am weld yr Aelod Seneddol annibynnol yn cael dychwelyd i’r gorlan.

Fe gafodd Jonathan Edwards ei wahardd o’r Blaid ym mis Mai 2020 wedi iddo dderbyn rhybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig.

Y llynedd fe gafodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ganiatâd gan banel disgyblu mewnol i ailymuno â Phlaid Cymru fel aelod.