Mae Clwb Pêl-droed Preston North End yn dweud y bydd Ched Evans, yr ymosodwr o Gymru, allan am “gyfnod estynedig ar ôl datblygu cyflwr meddygol difrifol”.

Dywed y clwb fod y cyn-chwaraewr rhyngwladol yn wynebu “canlyniadau allai newid ei fywyd” o ganlyniad i ergydion corfforol parhaus drwy gydol ei yrfa.

Mae’r anaf i’w wddf yn fwy cyffredin yn y byd pêl-droed Americanaidd a rygbi, ac fe fydd yn rhaid iddo gael llawdriniaeth i drin ei symptomau ac i atal niwed pellach yn y dyfodol.

Mae e wedi sgorio naw gôl y tymor hwn i’w glwb, ac maen nhw’n dweud y bydd yn treulio cryn gyfnod yn adfer ar ôl y driniaeth, er nad yw hi’n glir ar hyn o bryd am ba hyd y bydd e allan o’r gêm.

Ond mae’r clwb yn dweud eu bod nhw’n gobeithio y bydd modd iddo ddychwelyd i’r cae yn y dyfodol.