Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi’r hyfforddwr ffitrwydd Huw Bevan yn Gyfarwyddwr Perfformiad dros dro Undeb Rygbi Cymru.

Mae’n camu i swydd flaenorol y Prif Weithredwr dros dro, Nigel Walker.

Mae Huw Bevan wedi gweithio ym maes ffitrwydd i nifer o sefydliadau o fewn y byd rygbi a chriced, yn ogystal â bod yn ymgynghorydd annibynnol i World Rugby gyda thîm cenedlaethol yr Unol Daleithiau.

Bu’n gweithio gyda Chaerdydd, y Gweilch, Casnewydd a Chymru dan 21 yn y gorffennol, yn ogystal â thîm criced Lloegr.

Dywed ei bod hi’n “adeg gyffrous” i gamu i’r swydd, yn enwedig wrth i gêm y menywod ddatblygu.

“Oes, mae yna nifer o faterion a llawer i’w wneud, ond dw i erioed wedi bod yn un am redeg i ffwrdd oddi wrth her,” meddai.

“Mae hwn yn gyfle gwych i weithio yng Nghymru, i fy nghenedl, a chael effaith bositif ar y busnes.”

Ymhlith ei ddyletswyddau fydd datblygu llwybrau’r menywod ymhellach, a chydweithio ar draws rygbi yng Nghymru i sicrhau twf cynaladwy a llwyddiannus.

‘Hynod brofiadol a thalentog’

“Mae Huw yn Gyfarwyddwr Perfformiad hynod brofiadol a thalentog sydd â gwybodaeth drylwyr o dirwedd rygbi Cymru, ond mae ganddo gefndir mewn perfformiad chwaraeon y tu allan i rygbi sy’n creu cryn argraff, yn ogystal ag amrywiol swyddi o amgylch y byd,” meddai Nigel Walker.

“Bydd y cyfoeth hwn o brofiad yn gaffaeliad i bob rhan o rygbi Cymru, ac rydym wrth ein boddau o gael croesawu Huw yn ôl adref i Gymru.”