Mae’r Athro Laura McAllister wedi’i hethol yn aelod o Bwyllgor Gwaith UEFA – y Gymraes gyntaf erioed i’w derbyn i’r pwyllgor.
Cafodd ei rôl ei chadarnhau yng nghyfarfod y Gyngres yn Lisbon ym Mhortiwgal.
Mae strategaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n ymrwymo i sicrhau bod gan Gymru lais cryf wrth brif fwrdd pêl-droed Ewrop a’r byd, ac maen nhw’n dweud bod ei hethol i’r pwyllgor yn “garreg filltir enfawr arall o’r strategaeth honno”.
Eisoes, bu’n Ddirprwy Gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Menywod UEFA, ac yn aelod o Weithgor Cydraddoldeb Rhywedd y corff.
Yn gyn-gapten ar dîm Cymru, enillodd hi 24 o gapiau dros ei gwlad, a bu mewn sawl swydd arwain a llywodraethu ar ôl ymddeol o’r maes chwarae.
Mae Pwyllgor Gwaith UEFA yn gyfuniad o Lywydd, 16 aelod etholedig gan Gyngres UEFA, dau aelod sydd wedi’u hethol gan Gymdeithas y Clybiau Ewropeaidd, ac un gan y Cynghreiriau Ewropeaidd.
Gall y Pwyllgor Gwaith fabwysiadu rheolau a gwneud penderfyniadau ar yr holl faterion nad ydyn nhw’n dod o dan farnwriaeth statudol neu gyfreithiol Cyngres UEFA.
I bob pwrpas, y Pwyllgor Gwaith sy’n rheoli UEFA.
Bydd yr Athro Laura McAllister yn ei rôl am gyfnod o bedair blynedd.