Mae Clwb Rygbi Casnewydd wedi talu teyrnged i’w cyn-Brif Weithredwr Tony Brown, yn dilyn ei farwolaeth.

Ymunodd â’r clwb yn 1997 yn is-lywydd cyn cael ei benodi’n Brif Weithredwr cynta’r clwb.

Roedd hefyd yn rhanddeiliad sylweddol o fewn y clwb, gan oruchwylio “trawsnewidiad sylweddol” wrth ddenu sêr rhyngwladol i dde-ddwyrain Cymru ac ennill Cwpan Cymru yn 2001.

Yn ôl y clwb, mae ei gyfnod wrth y llyw “yn un o’r amserau mwyaf cofiadwy yn hanes y clwb”.

Cafodd ei dderbyn i Oriel Enwogion Clwb Rygbi Casnewydd yn 2012 i nodi ei gyfraniad sylweddol i’r clwb.

“Rydym yn anfon ein meddyliau a’n cydymdeimlad i’w deulu a’i ffrindiau ar yr adeg anodd hon,” meddai’r clwb mewn datganiad.

‘Diwrnod trist i bawb yn Rodney Parade’

Mae rhanbarth y Dreigiau, sy’n cwmpasu Casnewydd, hefyd wedi talu teyrnged i un sy’n “gadael gwaddol enfawr yn Rodney Parade”.

Maen nhw’n dweud mai “ei fuddsoddiad, ei ysbryd a’i rym helpodd i drawsnewid rygbi yng Nghasnewydd”.

Roedd e’n ffigwr dylanwadol wrth sefydlu rhanbarth y Dreigiau pan gafodd rygbi rhanbarthol ei sefydlu yng Nghymru, ac fe fu’n gyfarwyddwr arnyn nhw ac yn noddwr am ddau ddegawd drwy ei gwmni Bisley Office Furniture.

Yn ôl Mark Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr y Dreigiau, mae colli Tony Brown yn “ddiwrnod trist i ni i gyd yn Rodney Parade”.

“Does dim modd tanbrisio dylanwad a gwaddol Tony Brown, yn syml iawn,” meddai.

“Fe drawsnewidiodd e rygbi yng Nghasnewydd.

“Dw i’n cyfrif fy hun yn eithriadol o ffodus o fod wedi adnabod Tony ers ei ymrwymiad cyntaf yma.

“Dw i wedi gweld drosof fy hun ei effaith, a heb ei fuddsoddiad a’i angerdd, yn syml iawn, fydden ni ddim lle’r ydyn ni heddiw.

“Nid dim ond ei gefnogaeth ariannol enillodd iddo’i statws cwlt ymhlith cynifer o gefnogwyr.

“Yn wir, roedd e’n ddyn y bobol, yn aml yn gwerthu rhaglenni ar ddiwrnod gemau o’r terasau neu’n cymryd amser i siarad â chefnogwyr am ei obeithion a’i uchelgeisiau.

“Roedd e’n allweddol mewn cynifer o’r hyn rydyn ni’n ei weld o’n cwmpas ni, ac mae ei waith arloesol wrth sefydlu tîm cymunedol y Dreigiau wedi golygu bod miloedd o bobol ifanc dros y ddau ddegawd diwethaf wedi ymrwymo ac wedi elwa ar ein gêm.

“Dw i’n gwybod y bydd colled ar ôl Tony ymhlith nifer o’n cefnogwyr a’n partneriaid, a dw i’n siarad ar ran pawb yn y Dreigiau wrth anfon fy nghydymdeimlad dwysaf a’m meddyliau i’w deulu a’i ffrindiau ar yr adeg drist iawn hon.”