Ifan Morgan Jones sy’n holi a yw selio hunaniaeth genedlaethol ar rygbi yn beth iach i Gymru…

Er mai Gog ydw i, rydw i ers blynyddoedd wedi ymddiddori mewn rygbi, a hynny ar draul pêl-droed.

Mae hynny’n rhannol oherwydd cyfnod hir yn byw yn ne Cymru, a Thad-cu oedd â dwy sedd barhaol yn Stadiwm y Mileniwm.

Rhaid cyfaddef fy mod i’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio ar unrhyw beth arall yn yr wythnos cyn dechrau gêm ryngwladol.

Rydw i’n poeni gymaint yn ystod y gêm, mae’n rhaid i mi ddianc o’r ystafell. Nid yw’r tîm pel-droed yn ysbrydoli’r un angerdd ynof o gwbl.

Pam felly? Rwy’n genedlaetholwr, ac mae rygbi yn amlwg yn rhan annatod o’n hunaniaeth genedlaethol. Ond beth sy’n gyfrifol am hynny, ac a yw’n beth iach?

Yn ôl yr academydd Michael Billig, mae yna ddau fath o genedlaetholdeb, sef cenedlaetholdeb ‘poeth’ – sydd am newid y drefn – a chenedlaetholdeb ‘banal’ – sydd yn cynnal y drefn fel y mae.

Cenedlaetholdeb ‘banal’ yw rygbi, mewn sawl ffordd. Mae’n gyfle i’r Cymry chwythu ychydig o stem, yn fynych i gyfeiriad Lloegr, a hynny heb herio safle darostyngedig y wlad mewn gwirionedd.

Cyn-drefedigaethau yr Ymerodraeth Brydeinig yw mwyafrif timoedd rygbi mawr y byd, y tu hwnt i Ffrainc a’r Ariannin.

Mae’r rhwydwaith hwnnw, a’r cyfle i faeddu eu cyn-feistr Ymerodrol, yn rhan bwysig o’u hunaniaeth. Dyw hynny ddim yn beth drwg yn achos gwledydd sydd eisoes yn annibynnol, megis Seland Newydd.

Ond efallai nad yw ennill ffug frwydrau ar y cae rygbi, wrth anwybyddu brwydrau go iawn i ddatrys rhai o broblemau cymdeithasol ac economaidd y wlad, yn beth arbennig o iach i gyw-genedl fel Cymru.

Mae’n arwyddocaol mai Stadiwm y Mileniwm sydd reit yng nghanol Caerdydd – tra bod Senedd Cymru wedi ei alltudio i lawr i’r bae!

Tywysogaeth

Mae symbolaeth Brydeinig gryf hefyd wedi ei blannu o fewn rygbi Cymru – y tair pluen, Cwpan y Tywysog William pan ydyn ni’n herio De Affrica, ac mae’r darpar-Frenin ei hun yn is-noddwr yr undeb.

(Rwy’n siŵr i mi ei weld mewn crys Lloegr yn ystod Cwpan y Byd 2007 – ond dyna ni.)

Ac o fis Ionawr ymlaen fe fydd gennym ni ‘Principality Stadium’ yn ogystal. Mae’r cyfan yn fodd o bwysleisio yn gyson safle Cymru fel rhan o Brydain.

Os oes modd lleihau Cymreigrwydd i ddim mwy nag gwisgo het daffodil a chwifio dafad tegan, a oes diben i genedlaetholdeb o gwbl?

Ystrydebau’r Wasg

Rhaid gofyn yn ogystal pam bod y tîm rygbi cenedlaethol mor boblogaidd, a hynny ar draul campau eraill.

Ar sail nifer chwaraewyr a’r torfeydd mewn gemau clwb, mae’n amlwg mai pêl-droed yw hoff gamp y Cymry mewn gwirionedd.

Y gwahaniaeth yw bod Tîm Rygbi Cymru yn chwarae Lloegr o leiaf unwaith bob blwyddyn, ac felly rydyn ni’n clywed llawer mwy am y tîm rygbi yn ein gwasg o ddydd i ddydd.

Anaml iawn mae tîm pel-droed Cymru ar ‘radar’ y wasg Lundeinig o gwbl, ac felly ni cheir yr un ‘heip’ sy’n arwain at yr un torfeydd yn eu gemau nhw.

Mae hyd yn oed y disgwrs a ddefnyddir wrth drafod y tîm rygbi yn seiliedig ar hen ystrydebau imperialaidd – y Cymry angerddol, creadigol, a hudol, yn erbyn y Saeson cryf a rhesymegol.

Mae’n bosib y byddwn ni’n clywed llawer yfory am y ‘ffordd Fijiaidd o chwarae’ – hynny yw, chwarae mewn modd treisgar a thaflu’r bel o gwmpas y cae yn wyllt.

Nid Cymru’n unig, o gyn-drigolion brodorol yr Ymerodraeth Brydeinig, sydd wedi dod i gredu ystrydebau eu meistri amdanynt eu hunain!

Ychydig iawn o wirionedd sydd iddynt erbyn hyn, wrth gwrs. Diffyg adnoddau hyfforddi sy’n gyfrifol am gêm distrwythur y Fijiaid.

Yn y cyfamser mae Lloegr yn ceisio bod yn greadigol gyda’r bêl, tra bod Cymru a Ffrainc yn chwarae mewn modd gweddol undonog.

Does dim ond angen un gic gan Lloyd Williams er mwyn atgyfodi’r ystrydebau, wrth gwrs!