Rhys Lewis
Yn rhifyn Golwg ar 24 Medi fe gawsom ni glywed hanes Rhys Lewis, ffermwr o Fachynlleth gafodd ei anafu’n ddifrifol mewn damwain torri coed flwyddyn a hanner yn ôl.

Mae Rhys wedi bod mewn cadair olwyn ers hynny, gyda doctoriaid yn dweud wrtho nad oes disgwyl y bydd yn gallu cerdded eto.

Ond ers y ddamwain mae’r cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, sydd bellach yn 25 oed, wedi dangos agwedd bositif tu hwnt gan daflu’i hun mewn i weithgareddau a heriau newydd – weithiau yn llythrennol.

Mae bellach yn chwarae pêl-fasged cadair olwyn, gêm gorfforol tu hwnt, yn ogystal â beicio llaw, ac yn parhau i helpu ar ei fferm gartref yn Henllan.

Ond ei brif gamp yw rasio cadair olwyn ac mae’n cyfaddef bod ganddo obeithion o gyrraedd y Gemau Olympaidd ymhen pum mlynedd.

Gohebydd Golwg Iolo Cheung fu draw yn sgwrsio â Rhys Lewis am ei fywyd ers y ddamwain:

Fe fydd y rhifyn nesaf o Golwg allan yn eich siopau lleol dydd Iau 1 Hydref.