Hir yw pob aros, ac ar ôl disgwyl 57 mlynedd i weld eu tîm yn cyrraedd twrnament rhyngwladol fe fu’n rhaid i gefnogwyr Cymru rhoi’r siampên nôl yn y fwced am fis arall yn dilyn y gêm gyfartal yn erbyn Israel ychydig wythnosau yn ôl.
O’r diwedd fodd bynnag mae dwy gêm olaf ymgyrch ragbrofol Ewro 2016 wedi cyrraedd, a’r cefnogwyr yn barod does bosib i ddathlu sicrhau’r pwyntiau hanesyddol fydd yn gweld Cymru’n cyrraedd Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Dim ond pwynt sydd ei angen ar Gymru o’r ornest yn Bosnia ar 10 Hydref neu’r gêm gartref yn erbyn Andorra ar 13 Hydref, ac fe fyddan nhw yno.
Wrth i Chris Coleman baratoi i enwi ei garfan dydd Iau ar gyfer y ddwy gêm, mae criw Pod Pêl-droed Golwg360 hefyd yn dychwelyd i gymryd cip dros bethau wrth i ni agosau at y terfyn.
Owain Schiavone, Iolo Cheung a Tommie Collins sydd yn sgwrsio’r wythnos hon, gan drafod pwy fydd yn y garfan a phwy sydd yn haeddu cadw’u lle, siwrne cefnogwyr Cymru i Bosnia (a thrafferth i un fydd ddim yn cael gwneud), a hanes ambell un o chwaraewyr y tîm rhyngwladol sydd wedi disgyn lawr y cynghreiriau.
Fe fydd yr holl newyddion am garfan Cymru a pharatoadau ar gyfer y ddwy gêm hefyd i’w cael ar Golwg360 dros y dyddiau nesaf, ond am nawr dyma damaid i aros pryd: