Bydd buddugoliaeth Ffiji dros Gymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2007 yn eu sbarduno wrth iddyn nhw baratoi i herio Cymru unwaith eto, yn ôl eu hyfforddwr John McKee.
Bydd y ddwy wlad yn mynd benben â’i gilydd yn Stadiwm y Mileniwm nos Iau.
Dywedodd McKee: “Fyddwn i ddim yn diystyru defnyddio rhai o’r delweddau o 2007 o bosib wrth i ni baratoi, jyst i atgoffa’r chwaraewyr.
“Dydy hynny ddim yn dylanwadu canlyniad y gêm hon, ond mae hi bob amser yn dda defnyddio’r delweddau hynny i ysgogi’r chwaraewyr.”
Dydy Ffiji ddim wedi ennill yng ngrŵp A eto, ac fe fyddan nhw’n teithio i Gaerdydd heb ddau o’u prif chwaraewyr, yr asgellwr Nemani Nadolo – sydd wedi’i wahardd am dacl beryglus yn erbyn Awstralia – a’r mewnwr Niko Matawalu, sydd wedi’i anafu.
Mae chwech newid i gyd yn eu tîm
Bydd eu capten, Akapusi Qera yn ennill ei hanner canfed cap – y trydydd chwaraewr o’r ynys i gyrraedd y garreg filltir, a hynny ar ôl Nicky Little a Seremaia Bai.
Ychwanegodd McKee: “Ar ôl dwy gêm galed yn erbyn Lloegr ac Awstralia o fewn cyfnod byr o amser, mae gyda ni nifer o gyrff clwyfedig.
“Roedden ni bob amser yn mynd i wneud newidiadau ar gyfer y gêm hon, felly mae’r tîm ry’n ni wedi’i ddewis i gyd yn 100% yn ffit, ac roedd hynny’n rhan o’r meini prawf.
“Mae hon yn gêm bwysig iawn yn nhermau’r grŵp i Gymru, ond mae hi hefyd yn gêm bwysig i ni.”
Ychwanegodd McKee ei fod yn anelu i gyrraedd y trydydd safle yn y grŵp.
Prifysgol Abertawe
Wrth baratoi ar gyfer yr ornest, mae Ffiji wedi bod yn ymarfer ar gaeau Prifysgol Abertawe, sydd eisoes wedi bod yn ganolfan ar gyfer tîm Canada yn ystod y gystadleuaeth.
Rhoddodd y garfan groeso i wirfoddolwyr o Chwaraeon Anabledd Cymru a nifer o deuluoedd lleol i un o’u sesiynau ymarfer, ac roedd cyfle iddyn nhw gyfarfod ag aelodau’r garfan.
Ychwanegodd John McKee: “Mae’r cyfleusterau yma ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn ardderchog.
“Fe fu’r staff yn barod iawn i helpu, gan wneud yn siŵr fod popeth yn iawn ar ein cyfer ni.”
Tîm Ffiji: M Talebula, T Nagusa, V Goneva, L Botia, A Tikoirotuma, B Volavola, N Kenatale, C Ma’afu, S Koto, M Saulo, T Cavubati, L Nakarawa, D Waqaniburotu, A Qera (capten), N Talei.
Eilyddion: V Veikoso, P Ravia, L Atalifo, N Soqeta, M Ravulo, H Seniloli, J Matavesi, K Murimurivalu.