Casnewydd 0–3 Crawley                                                                 

Canlyniad siomedig a gafodd Casnewydd wrth groesawu Crawley i Rodney Parade nos Fawrth, dridiau yn unig ar ôl ennill am y tro cyntaf y tymor hwn.

Cafodd yr Alltudion dri phwynt da oddi cartref yn Carlisle brynhawn Sadwrn, ond doedd dim ail fuddugoliaeth i fod wrth i’r Cymro, Gwion Edwards, rwydo dwy o dair gôl Crawley mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Rhoddodd cyn chwaraewr Aberystwyth ac Abertawe yr ymwelwyr ar y blaen gydag ergyd dda o du allan i’r cwrt cosbi ddeg munud cyn yr egwyl.

Dyblodd Edwards y fantais gyda’i ail gôl cyn yr hanner cyn creu y drydedd gyda chroesiad i Matt Harrold ar yr awr.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd ar waelod tabl yr Ail Adran.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Donacien, Partridge, Parselle (Elito 75′), Ofori-Twumasi, Owen-Evans, Byrne, Boden (Rodman 64′), Barrow, John-Lewis (Collins – 64′), Blackwood

Cardiau Melyn: Boden 25’, Owen-Evans 77’

.

Crawley

Tîm: Woodman, Donnelly, Bradley, Yorwerth, Scales, Edwards (Bawling 66′), Jenkins, Smith (Walton 80′), Young, Murphy (Deacon 77′), Harrold

Goliau: Edwards 36’, 42’, Harrold 61’

Cardiau Melyn: Jenkins 78’, Donnelly 86’

.

Torf: 2,137