Rhidian Jones
Rhidian Jones sy’n amau a yw’r ffefrynnau yn haeddu cipio’r Chwe Gwlad …
Yn nwy gêm ddiwetha’r Chwe Gwlad mae’r Eidal wedi sgorio chwe gwaith cymaint o geisiau ag Iwerddon.
Ond pwy sydd ar frig y bencampwriaeth, yn anelu at Gamp Lawn, ond ein cefndryd Celtaidd, tra bod yr Eidal nepell o waelod y tabl.
Mae rhywbeth o’i le ar y gêm os yw tîm sy’n canolbwyntio cymaint ar dagu gêm y gwrthwynebwyr – yn llythrennol felly’n aml – yn cael eu gwobrwyo ar draul tîm sy’n ceisio trafod y bêl.
Does ryfedd i brif hyfforddwr Seland Newydd, Steve Hansen, ddweud wythnos yma bod gormod o bwyslais yn rygbi hemisffer y gogledd ar amddiffyn, a gormod o nerfusrwydd ynglŷn ag ymosod am fod ildio’r bêl neu gael cic gosb yn eich erbyn jyst yn rhy gostus mewn gêm glòs.
Mae colli i Seland Newydd o un flwyddyn i’r llall yn brofiad poenus i ni’r Cymry, ond o leiaf mae’r Crysau Duon yn barod i redeg a diddanu – mae’n fwy poenus o lawer colli i giciau.
Schmidt a Gatland
Ni ddylai tîm fel Iwerddon, sy’n gweithredu cynllun cyfyng o gicio am diriogaeth ac yna gorfodi’r gwrthwynebwyr i wneud camgymeriad, gael yr hawl i lwyddo’n gyson, ond maen nhw wedi ennill deg gêm o’r bron.
Y broblem ar hyn o bryd yw bod tactegau ceidwadol yn talu ar eu canfed. Mae Joe Schmidt, hyfforddwr Iwerddon, yn ddigon craff i wybod hynny ac mae e wedi cael gwared ar y rygbi pert oedd ganddo pan oedd yn hyfforddi Leinster.
Mae wedi canolbwyntio hefyd ar gryfderau’r garfan sydd ganddo – ffarwél Brian O’Driscoll, helo i gicio cywrain Sexton a Murray, a phac taer, penderfynol, technegol.
Os byddan nhw’n curo ni mewn steil yng Nghaerdydd, gyda phentwr o geisiau, yna pob lwc iddyn nhw wrth anelu am y Gamp Lawn…ond mae arna i ofn mai cicio’r lledr oddi ar bledren y mochyn fyddan nhw.
Rygbi’r Gynghrair?
Dydw i ddim yn honni bod Cymru’n dîm mentrus, deniadol dan Warren Gatland. Mae’n gêm ni’n fecanyddol yn aml, ond mae Warrenball ar y cyfan yn groes i’n natur ni a dw i’n credu awn ni nôl at rygbi mwy deheuig a llai caeth ar ôl i Gatland orffen gyda ni.
Hoffwn i weld rygbi’n arbrofi gyda rheolau newydd ar ôl Cwpan y Byd er mwyn llacio ychydig ar rygbi mecanyddol y gêm broffesiynol.
Mae angen gwobrwyo timau sy’n rhedeg, symleiddio ardal y dacl, symleiddio’r sgrymiau, a chael llai o chwaraewyr ar y cae ac felly mwy o le i redeg.
Wna i sibrwd hyn, ond onid yw hi’n bryd i Rygbi’r Undeb agosáu at reolau Rygbi’r Gynghrair?