Owain Tudur Jones
Mae chwaraewr canol cae Cymru Owain Tudur Jones wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol ar ôl cael cyngor meddygol.

Dyw’r chwaraewr 30 oed heb chwarae ers y llynedd ar ôl anafu ei ben-glin unwaith eto yn fuan ar ôl arwyddo i glwb Falkirk yn yr Alban.

Heddiw fe drydarodd ei fod nawr wedi cymryd cyngor meddygol ac yn ymddeol o’r gamp.

“Ar ôl cyngor gan yr arbenigwr pen-glin, ma’r amser wedi dod i hongian y sgidiau pêl-droed. Diolch enfawr i bawb am eich cefnogaeth,” meddai Owain Tudur Jones ar Twitter heddiw.

Trydar y newyddion

Dywedodd Owain Tudur Jones wrth ei ddilynwyr Twitter y bore ma ei bod hi’n bryd “hongian yr Umbros maint 11” ond ei fod yn edrych ymlaen at y dyfodol er gwaethaf y tinc o dristwch oedd ganddo wrth ymddeol.

Capiau i Gymru

Dechreuodd Owain Tudur Jones ei yrfa gyda Phorthmadog a Bangor cyn symud i Abertawe yn 2005 yn 21 oed.

Treuliodd y chwaraewr canol cae bedair blynedd gyda’r Elyrch gan helpu’r tîm i ennill dyrchafiad o Gynghrair Un i’r Bencampwriaeth yn ystod cyfnod Roberto Martinez wrth y llyw.

Yn 2009 fe symudodd i Norwich gan dreulio cyfnodau hefyd ar fenthyg i glybiau megis Yeovil a Brentford, cyn symud i’r Alban i chwarae dros Inverness ac yna Hibernian.

Yn ystod ei yrfa fe enillodd saith cap dros Gymru, yr olaf o’r rheiny yn dod mewn gêm gyfeillgar yn erbyn y Ffindir yn 2013.

Ond fe fu’n dioddef gydag anafiadau i’w ben-glin yn gyson yn ystod ei yrfa, gan fynd i’r Unol Daleithiau i weld yr arbenigwr Dr Richard Steadman i geisio datrys y broblem.

Yn ddiweddar mae wedi dechrau sylwebu rhywfaint ar gemau pêl-droed i Radio Cymru yn ystod ei gyfnodau wedi anafu.

Clip o Owain Tudur Jones yn siarad i golwg360 ar ôl ei ymddangosiad olaf dros Gymru: