Ryan Giggs
Mae rheolwr Manchester United yn anhapus bod ei berthynas gyda’i ddirprwy Ryan Giggs wedi dod o dan y chwyddwydr, gan wadu bod y ddau yn anghydweld.

Ar ôl i United sgorio yn erbyn Newcastle nos Fercher, dangosodd y camerâu teledu luniau o’r dirprwy reolwr Ryan Giggs yn brin ei ymateb – o’i gymharu â Louis Van Gaal oedd yn dathlu ac yn gweiddi wrth ei ymyl.

Ar ôl cael ei holi am ei berthynas gyda’r Cymro mewn cynhadledd i’r wasg, fe ddywedodd Louis Van Gaal ei fod wedi’i gorddi gan y cwestiynau, cyn ymateb yn nawddoglyd:

“Na, mae gennym ni berthynas ddrwg iawn,” meddai.

“Rwyf yn flin iawn hefo’r cwestiwn yma oherwydd bod pawb yn medru gweld bod ganddom ni berthynas dda. Rydym yn gweithio’n galed gyda’n gilydd, gyda’r holl staff a’r chwaraewyr.

Amynedd

Ond mae un o ffrindiau pêl-droed Ryan Giggs, Paul Scholes, wedi amau a fydd ganddo’r amynedd i aros yn swydd y dirprwy am gyfnod hir.

“Does dim amheuaeth ei fod o eisiau bod yn rheolwr. Ond dros y ddwy neu dair blynedd nesaf, fydd ganddo’r amynedd i gymryd gorchmynion? Dw i ddim yn siŵr.”