Alex Cuthbert
Bydd Alex Cuthbert a Gareth Anscombe yn dechrau dros y Gleision heno wrth iddyn nhw groesawu Connacht i Barc yr Arfau.

Mae’r hyfforddwyr dros dro Dale McIntosh a Paul John wedi gwneud chwech newid i’r tîm gipiodd fuddugoliaeth yn erbyn Caeredin yr wythnos ddiwethaf.

Bydd Josh Navidi yn dychwelyd i’r rheng ôl, Taufa’ao Filise a Kristian Dacey yn dechrau yn y rheng flaen, a Lou Reed yn dod i mewn i’r ail reng.

Anscombe fydd yn gwisgo’r crys rhif 10, gan olygu bod Rhys Patchell yn symud i safle’r cefnwr.

Creu argraff

Gyda Chymru’n paratoi i herio Iwerddon yn y Chwe Gwlad y penwythnos diwethaf fe gyfaddefodd hyfforddwr ymosod y Gleision Paul John y bydd ambell un yn trio eu gorau i wneud argraff ar Warren Gatland.

“Roedden ni’n falch o drechu Caeredin dydd Sul diwethaf ac roedd hi’n bwysig i bawb yn y rhanbarth gael y fuddugoliaeth yna,” meddai Paul John.

“Dydyn ni heb gael llawer o amser i baratoi yr wythnos hon ond mae cael bechgyn Cymru nôl yn hwb i ni.

“Rydw i’n gwybod y bydd chwaraewyr fel Gareth Anscombe ac Alex Cuthbert yn awyddus i greu argraff a chael rhywfaint o amser ar y cae.”

Tîm y Gleision: Rhys Patchell, Alex Cuthbert, Cory Allen, Gavin Evans, Joaquin Tuculet, Gareth Anscombe, Lloyd Williams; Sam Hobbs, Kristian Dacey, Taufa’ao Filise, Jarrad Hoeata, Lou Reed, Josh Turnbull, Ellis Jenkins (capt), Josh Navidi.

Eilyddion: Rhys Williams, Thomas Davies, Scott Andrews, Filo Paulo, Macauley Cook, Tavis Knoyle, Gareth Davies, Tom Isaacs.