Illtud Dafydd
Illtud Dafydd sy’n pendroni pryd welwn ni ail dîm Cymru ar y llwyfan rhyngwladol …
Pan gyhoeddwyd nôl yn Awst 2014 bod cytundeb rhwng Undeb Rygbi Cymru a byrddau rheoli’r pedwar rhanbarth Cymreig (Pro Rugby Wales) ynglŷn ag ariannu’r timau a manylion eraill, cyhoeddwyd hefyd bod cynlluniau i ailsefydlu tîm ‘A’ Cymru, i ddechrau ym mis Ionawr 2015.
Er hynny does dim wedi dod o’r newyddion ac rydyn ni eto i weld yr ail dîm rhyngwladol Cymreig yma’n cael ei greu, er bod tîm Saxons Lloegr a Wolfhounds Iwerddon wedi wynebu ei gilydd ddiwedd mis Ionawr.
Y tebyg yw y bydd yn rhaid aros yn hirach i weld ail dîm Cymru yn chwarae am y tro cyntaf ers 2002.
Ond yn y cyfamser dw i wedi cael cipolwg i weld sut base’r tîm yn gallu edrych pe bai hi’n cael ei enwi nawr. Mae ambell i safle sy’n peri penbleth, felly dw i wedi cynnig eilydd i ambell chwaraewr.
15: Dan Evans – Cefnwr y Gweilch wedi ennill dau gap i Gymru yng Ngogledd America tra bod ein cefnwyr dewis cyntaf ar y pryd (Lee Byrne ac Leigh Halfpenny) ar daith y Llewod yn Ne Affrica. Tymor gwych cyn belled, ac ef sydd wedi rhedeg bellach nag unrhyw un arall yn y Pro12.
14: Hallam Amos – Yn rhan o’r brif garfan ond cyfle da iddo chwarae ar lefel uwch na jyst y Pro12 a Chwpan Her Ewrop. Opsiwn cicio o’r llawr ac yn y chwarae agored. Tair cais yn y gynghrair eleni ac ond wedi colli dwy gêm gynghrair.
13: Cory Allen – Wedi bod ar gyrion y brif garfan ers iddo ennill ei gap gyntaf yn 2013. Wedi bod yn dioddef o anaf yn ddiweddar, ond dangosodd rhywfaint o’i dalent gan dorri llinell amddiffynnol Munster nos Sadwrn diwethaf.
Chwaraewr ifanc arall sydd angen amser ar lefel rhwng rygbi domestig a rhyngwladol, yn enwedig wrth ystyried nad yw’r Gleision yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop. Un arall posib yw Ashley Beck.
12: Tyler Morgan – Derbyniodd gytundeb canolog gan Undeb Rygbi Cymru yn y flwyddyn newydd wedi tymor safonol i’r Dreigiau. Lyn Jones wedi rhoi digon o amser iddo ar y cae, ond mae dal yn ddigon ifanc i gynrychioli’r tîm dan 20. Un arall – Scott Williams.
11: Eli Walker – Aelod prin o’r garfan sydd heb ennill cap i’r tîm llawn, ond mae wedi bod yn perfformio ar safon uchel dros ben i’r Gweilch ers sawl blwyddyn. Ei gais bythgofiadwy yn erbyn Toulouse yn y Liberty sbel yn ôl yn esiampl wych. O bosib Aled Brew hefyd.
10: Rhys Patchell – Enillodd gapiau dros Gymru ar daith Siapan ddwy flynedd yn ôl ond wedi’i ddiystyru braidd gan dîm hyfforddi Warren Gatland. Mae dyfodiad Gareth Anscombe i Barc yr Arfau a charfan Cymru yn peri gofid.
Dylid cadw ffydd yn y maswr ifanc, mae ei waith caled oddi ar y cae yn haeddu mwy o gyfleon. Un arall posib yw Jason Tovey.
9: Gareth Davies – Wedi bod yn dioddef o anaf ers amser nawr, ond tu ôl i Rhodri Williams yn y rhestr ar gyfer y garfan lawn. Cyflym o gwmpas y ryc, ac fel pob tîm ‘A’ mae angen ambell i chwaraewr sy’n medru newid gêm mewn chwinciad.
8: Dan Baker – Ail gochyn y tîm, ac er ei anaf roedd ei chwarae ar ddechrau’r tymor heb ei ail. Mae Tyler Ardron i’w weld wedi dwyn crys y Gweilch oddi arno ond mae gallu Baker i dorri’r llinell fantais yn ail yn unig i Toby Faletau yng Nghymru. Rory Pitman yn un arall.
7: Nick Cudd – Cyn-flaenasgellwr tîm dan-20 Cymru wedi dangos ei safon yng nghrys y Dreigiau. Pe bai dim Sam Warburton na Justin Tipuric mi fase yn y garfan lawn. Tîm ‘A’ Cymru yn bodoli i ddatblygu chwaraewyr fel Cudd. Taclwr cryf ac yn ddigon parod i frwydro am y bêl ar y llawr. Un arall fyddai Josh Navidi.
6: James King – Ail reng mwy na blaenasgellwr ond edrychwch ar Macauley Cook ar y fainc. Roedd yn aelod o garfan yr hydref ac fe enillodd ei drydydd cap yn erbyn Fiji. Dal ar gyrion y brif garfan.
5: Ian Evans – Ers symud i Fryste does dim llawer o sôn amdano wedi bod, cyfraith Gatland yn rheoli dros y cyn-Walch.
Ddwy flynedd yn ôl fe deithiodd gyda’r Llewod i Awstralia ac fe chwaraeodd yn y golled i Dde Affrica dros yr haf. Oes gormod o wahaniaeth rhwng Pencampwriaeth Greene King Lloegr a rygbi rhyngwladol?
4: Andrew Coombs – Arwr Rodney Parade am sawl reswm. Mae’n chwarae gydag angerdd a chalon ar bob achlysur, mae’n ddibynadwy yn y leiniau ac yn ddigon parod i wneud y gwaith caib a rhaw. Tîm hyfforddi Gatland i’w weld yn ffafrio Jake Ball, yn enwedig wedi iddo arwyddo cytundeb canolog.
3: Scott Andrews – Daeth oddi ar y fainc yn y fuddugoliaeth dros yr Alban, yn dilyn anafiadau i Samson Lee ac yna Aaron Jarvis. Sawl perfformiad da i’r Gleision, er bod rhaid iddo gystadlu gydag Adam Jones am ei grys rhanbarthol.
2: Scott Baldwin – Gydag ymddeoliad Huw Bennett ac ymadawiad Richard Hibbard ef yw bachwr dewis cyntaf y Gweilch.
Fel sawl aelod o’r garfan fe enillodd gapiau ar daith Siapan yn 2013, ond prin iawn yw’r aelodau hynny sydd wedi ennill cap eleni. Gydag anaf Ken Owens mae wedi cael safle yn 23 y tîm llawn. Un arall i gadw llygad arno yw Ryan Elias.
1: Sam Hobbs – Erioed wedi ennill cap rhyngwladol er ei fod wedi cynrychioli timau Cymru dan-20 a dan-19, ac mae bellach yn 26 oed. Dim ond wedi colli un gêm gynghrair i dîm Gleision Caerdydd, a gyda Gethin Jenkins yn rhan o garfan Gatland, bydd ei amser chwarae ond yn parhau eleni. Un arall yw Rhys Gill.
Y Fainc
16: Emyr Phillips
17: Rhodri Jones
18: Wyn Jones
19: Macauley Cook
20: Lewis Evans
21: Lloyd Williams
22: Jason Tovey
23: Jordan Williams