Mae Rhys Priestland wedi cael ei enwi ar y fainc i’r Scarlets wrth iddyn nhw baratoi i groesawu Munster i Barc y Scarlets dydd Sadwrn.

Does dim newid i’r pymtheg ddechreuodd y fuddugoliaeth yn erbyn Connacht yr wythnos diwethaf, canlyniad welodd y Scarlets yn codi i’r seithfed safle yn nhabl y Pro12.

Ken Owens fydd yn arwain y tîm fel capten ar ôl dychwelyd yn ddiweddar o anaf hir dymor i’w wddf, ac mae lle ar y fainc i Gareth Davies sydd hefyd yn holliach ar ôl triniaeth ddiweddar.

Dyw’r Scarlets heb golli gartref yn y gynghrair ers Dydd San Steffan 2013, a dyw Munster heb ennill yn Llanelli ers 2011.

Ond mae prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac yn mynnu bod yn rhaid i’w dîm fod yn wyliadwrus.

“Mae gan Munster record dda. Maen nhw’n agos at frig y tabl,” meddai Wayne Pivac.

“Fe fyddan nhw’n cynnig rhywbeth gwahanol i Connacht ac ar draws eu tîm maen nhw ychydig yn gryfach.

“Mae’n gêm bwysig i ni. Mae angen i ni ddangos mai nid jyst un perfformiad da oedd hi’r wythnos diwethaf.”

Tîm y Scarlets: Jordan Williams, Harry Robinson, Regan King, Hadleigh Parkes, Michael Tagicakibau, Steven Shingler, Aled Davies; Phil John, Ken Owens (capt), Peter Edwards, Lewis Rawlins, Johan Snyman, Aaron Shingler, James Davies, John Barclay

Eilyddion: Ryan Elias, Rob Evans, Jacobie Adriaanse, George Earle, Rob McCusker, Gareth Davies, Rhys Priestland, Adam Warren