Dim ond un newid sydd i dîm y Dreigiau wrth iddyn nhw baratoi i groesawu Connacht i Rodney Parade yn y Pro12 dydd Sul.

Mae’r prop 34 oed Boris Stankovich yn dychwelyd i’r rheng flaen, ond fel arall does dim newid i’r tîm gipiodd fuddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Leinster y penwythnos diwethaf.

Fe allai’r Dreigiau godi uwchben y Gleision yn y tabl os ydyn nhw’n ennill prynhawn Sul yn y gêm fydd yn fyw ar Clwb S4C am 3.45yp.

Ac mae prif hyfforddwr y Dreigiau Kingsley Jones yn mynnu bod angen i’r tîm gadw eu safonau uchel gartref hefyd.

“Yr her go iawn i ni yw yn Rodney Parade, dydyn ni ddim wedi perfformio mor dda ag y hoffwn ni fod wedi,” meddai Kingsley Jones.

“Mae Connacht yn dîm da ac angen eu cymryd o ddifrif. Fe chwaraeon nhw’n dda iawn yn erbyn y Scarlets am gyfnodau hir ond dal colli, ac fe ddown nhw lawr i Gymru yn chwilio am fuddugoliaeth.”

Tîm y Dreigiau: Jason Tovey, Tom Prydie, Pat Leach, Jack Dixon, Hallam Amos, Dorian Jones, Jonathan Evans; Boris Stankovich, T. Rhys Thomas, Brok Harris, Andrew Coombs, Rynard Landman (capt), James Thomas, Nic Cudd, Nick Crosswell

Eilyddion: Rhys Buckley, Phil Price, Dan Way, Ian Gough, James Benjamin, Richie Rees, Ashley Smith, Matthew Pewtner