Mae Gareth Anscombe wedi cael ei enwi yn nhîm y Gleision i herio Treviso yn y Pro12 heno ar ôl cael ei ryddhau dros dro o garfan Cymru.
Ymysg y chwech newid i’r tîm gan Mark Hammett mae’r canolwyr Adam Thomas a Tom Isaacs yn dychwelyd, a hynny oherwydd salwch i Cory Allen.
Taufa’ao Filise, Kristian Dacey ac Adam Jones fydd yn y rheng flaen, gyda Jones wedi ei ddewis o flaen Scott Andrews er mai Andrews yw’r un sydd yng ngharfan Cymru.
Mae Ellis Jenkins hefyd yn dychwelyd i’r tîm, gyda Josh Navidi yn symud i safle’r wythwr.
Mae’r Gleision yn parhau i fod yn nawfed yn nhabl y Pro12, dau safle yn uwch na Treviso, ar ôl colli yn Munster yr wythnos diwethaf.
Ac mae’r cyfarwyddwr rygbi Mark Hammett yn disgwyl gwell gan y tîm.
“Mae llawer o dimau wedi colli i ffwrdd yn Treviso; dyw e ddim yn le hawdd i fynd,” mynnodd Mark Hammett.
“Rydyn ni’n gwybod beth sydd angen ei wneud wythnos yma, yn enwedig ar ôl yr wythnos diwethaf yn Munster. Rydw i eisiau gweld sut fyddwn ni’n ymateb ar ôl perfformiad gwael, roedd rhaid i ni fod yn hollol onest â’n gilydd ar ôl hynny.”
Tîm y Gleision: Rhys Patchell, Lucas Amorosino, Tom Isaacs, Adam Thomas, Joaquin Tuculet, Gareth Anscombe, Lloyd Williams; Taufa’ao Filise, Kristian Dacey, Adam Jones, Macauley Cook, Filo Paulo, Josh Turnbull, Ellis Jenkins, Josh Navidi (capt)
Eilyddion: Rhys Williams, Thomas Davies, Scott Andrews, Miles Normandale, Manoa Vosawai, Tavis Knoyle, Gareth Davies, Owen Jenkins