Gary Monk
Mae rheolwr Abertawe Gary Monk wedi wfftio’r honiad mae tîm y “bêl hir” yw Man U, ar drothwy eu gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr yfory.

Roedd rheolwr West Ham Sam Allardyce wedi disgrifio tîm Louis van Gaal fel chwaraewyr oedd yn taro’r bêl yn uchel o’r cefn at eu hymosodwyr, yn hytrach na’i phasio’n gain ar hyd y llawr.

Ond mae Monk yn credu bod Man U yn medru amrywio eu tactegau a bod hynny yn brawf eu bod yn dîm da.

“Fedrwch chi ddim dibynnu ar un ffordd benodol o chwarae ac mae Man U wedi amrywio eu dulliau yn dda’r tymor yma,” meddai.

“Peidied neb ag anghofio mae dim ond un o’u 15 gêm ddiwetha’ y maen nhw wedi colli, felly maen nhw’n effeithiol waeth beth yw eu dull o chwarae.”

Sigurdsson yn ôl

Tra’n disgwyl gêm galed gartref yn erbyn sêr drudfawr Man U, mae Gary Monk yn croesawu Gylfi Sigurdsson yn ôl i’r garfan wedi i’r dewin creadigol gael ei wahardd am dair gêm ar ôl cael ei anfon o’r cae yn erbyn Blackburn yng Nghwpan yr FA.

Hefyd mae Wayne Routledge a Marvin Emnes yn well wedi anafiadau, ond mae Kyle Bartley wedi brifo ei ben-glin ac ar y cyrion am chwe wythnos.

Er i Abertawe dynnu blewyn o drwyn Man U ar ddiwrnod cynta’r tymor, gan adael Old Trafford gyda’r triphwynt, erbyn hyn mae tîm van Gaal yn llwyddo i naddu buddugoliaethau er nad ydyn nhw’n cyd-chwarae yn dda.

Ac nid yw record ddiweddar Abertawe yn yr Uwch Gynghrair cystal: ennill un, colli tair a thair gêm gyfartal.