Alex Cuthbert
Fe fydd rheolwyr rygbi Cymru’n siarad gyda’r asgellwr Alex Cuthbert tros ei ymddygiad … ac mae ei le mewn peryg yn y tîm cenedlaethol.

Fe gadarnhaodd un o’r tîm rheoli, Rob Howley, y bydden nhw’n cael gair gyda Cuthbert ar ôl i fideo gael ei roi ar wefannau cymdeithasol yn ei ddangos yn taflu ffôn symudol aelod o’r cyhoedd.

Er nad oedd gyda sgwad Cymru ar y pryd, fe ddywedodd Howley fod y digwyddiad yn eu hatgoffa o hyd o’r angen i ymddwyn yn iawn.

Fe roddodd Howley ganmoliaeth arbennig hefyd i chwaraewr y Scarlets, Liam Williams, sy’n herio Cuthbert a George North am eu llefydd ar y ddwy asgell.

Canmol Liam Williams

Williams oedd un o’r sêr wrth i Gymru guro’r Alban o dri phwynt dros y Sul ac mae disgwyl y bydd North yn ôl erbyn y gêm nesa’.

Gyda Leigh Halfpenny’n hanfodol yn safle’r cefnwr – safle arall posib Liam Williams – mae’n ymddangos ei fod yn herio’r ddau asgellwr mawr am le.

“Ro’n i’n meddwl bod Liam wedi chwarae’n arbennig o dda tros y Sul,” meddai Howley. “Roedd ei allu i guro chwaraewyr a’i ddiwydrwydd yn dda.

“Mae wastad yn benderfyniad mawr ar yr asgell. R’yn ni’n teimlo ein bod ni’n gry’ yn y safleoedd hynny.”