Gwyn Jones
Sylwebydd rygbi S4C Gwyn Jones sydd yn poeni y gallai’r gêm gael ei difetha …

Mae rygbi Ewropeaidd yn ôl y penwythnos hwn ac mae’n dechrau gydag awch yng Nghaerlŷr heno wrth i’r Scarlets anelu at fuddugoliaeth hanesyddol.

Roedd y Scarlets yn edrych yn gryf ar ôl yr ail gêm yn erbyn y Gweilch ddechrau’r flwyddyn.

Roedd eu sgrym yn bwerus, Rhys Priestland yn edrych yn hyderus a Scott Williams yn siarp fel rasel.

Fodd bynnag, mae anafiadau a’u perfformiadau oddi cartref wedi parhau i amharu ar eu tymor ac roedden nhw’n siomedig ar y naw  yn erbyn Glasgow.

Rydym yn clywed llawer o dimau y dyddiau hyn yn cwyno pa mor anodd yw cael canlyniad da oddi cartref. Mae hynny’n ystrydeb weithiau, ond yn achos Welford Road, mae’n hollol wir.

Nid yw stadiwm y Teigrod yn gymaint o gaer ag y bu ar un adeg ond fe lwyddon nhw i guro Toulon  gartre’ yn rownd tri o flaen 22,000 o gefnogwyr. Mae hyn yn awgrymu eu bod wedi adennill yr awch fu ar goll ddechrau’r tymor.

Nid oes dim yn rhoi mwy o bleser i mi na gweld Richard Cockerill ar yr ystlys wrth i’w dîm golli gartre’, ond yn anffodus ni allaf weld hynny’n digwydd heno.

Problem y sgrym

O leiaf mae’r Gweilch gartre’ y penwythnos, ond dyna’r unig gysur iddyn nhw.

Cawson nhw eu dinistrio gan  Northampton yn rownd dau ac fe wnaeth hynny arwain at gyfnod bach anodd yn eu tymor.

Ar hyn o bryd mae’r Gweilch ar frig y tabl Pro 12 ac mae ganddyn nhw record dda gartref. Ar bapur mae ganddyn nhw gyfle da i guro un o ffefrynnau’r twrnamaint.

Fodd bynnag, dyw safle’r Gweilch yn y cynghrair ddim yn adlewyrchu eu gwendidau.

Mae eu sgrym wedi bod o dan straen ers tro ac mae dyfarnwyr wedi bod yn hallt gyda nhw.

Nid yw’r dyfarnwr Ffrengig Jérôme Garces yn ofni cosbi timau am unrhyw wendid yn ei sgrymiau a bydd yn cael digon o gyfle i chwythu eu chwiban ddydd Sul.

Ni allaf ond gobeithio na chaiff y gêm ei difetha gan y gyfres ddi-ri o sgrymiau traed moch welsom ni ddydd Sul diwethaf pan ymwelodd y Dreigiau â Stadiwm Liberty yn y gêm gafodd ei darlledu’n fyw ar raglen S4C, Clwb Rygbi.

Cefnu ar y gêm

Yn ystod y gêm neu yn hytrach, rhwng y sgrymiau, roedd cyfweliad gyda Robin McBryde. Fe ddywedodd yn ei gyfweliad  na ddylai sylwebwyr gwyno a beirniadu’r sgrymiau, ond dylen nhw fachu ar y cyfle i addysgu ac egluro wrth y cyhoedd beth yw’r grefft gynnil a’r sgiliau technegol tu ôl i sgrymio.

Yna, fe ddywedodd y dylai unrhyw un sydd ddim yn hoffi sgrymio ddewis gwylio camp arall heblaw am rygbi.

Y newyddion drwg, Robin, yw bod pobl yn cefnu ar rygbi. Roedd y Liberty prin yn draean llawn ar gyfer y gêm ddarbi Gymreig yma. Y diwrnod blaenorol roedd y stadiwm dan ei sang ar gyfer y gêm bêl-droed rhwng yr Elyrch a West Ham.

Mae’r rhan fwyaf o’r bobl y bues i’n siarad gyda nhw am y gêm, wedi hen droi at sianel arall erbyn i Robin McBryde ddweud ei ddweud.

Yn y gynhadledd i’r wasg ar ôl y gêm, roedd y ddau hyfforddwr yn cwyno am y sgrym. Mae’r ddau yn bobl sy’n sicr o fod yn gwerthfawrogi ac yn deall brwydrau celfydd y sgrym.

Difyr oedd darllen sylwadau Nigel Owens yn y Western Mail yn dweud bod y sgrym yn adlewyrchu agweddau’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr ac rwy’n cytuno’n llwyr gyda’i sylwadau.

Os nad yw’r sgrymiau’n gwella, yna bydd un ai’n rhaid iddyn nhw ddiflannu’n llwyr neu fe fydd y gêm yn marw.

Bydd y Gweilch yn sicr am osgoi gormodedd o sgrymiau yn erbyn Northampton. Ond hyd yn oed os cawn ni gêm agored, bydd wynebu George North ar yr asgell yr un mor anodd iddyn nhw.

Nid oes unrhyw gywilydd o golli i Northanpton am eu bod yn dîm mor ddawnus ac yn chwarae rygbi cyflawn.

Rwy’n hyderus y bydd hi’n gêm fwy cystadleuol na’r tro diwethaf a bydd colli, ond cael pwynt bonws, yn  ganlyniad go lew i’r Gweilch.