Illtud Dafydd
Illtud Dafydd sydd yn edrych ar yr her sydd yn wynebu’r pedwar tîm yng nghwpanau Ewrop y penwythnos hwn …

Gyda’r flwyddyn bron ar ben, rydyn ni wedi gweld yr olaf o’n rygbi rhyngwladol ni am 2014.

Ond y penwythnos yma mae digon o gemau i’w chwarae eto gyda rhanbarthau Cymru i gyd nôl yn cystadlu mewn gemau Ewropeaidd.

Cwpan Ewrop

Y Gweilch – Nid yw mis Tachwedd wedi bod yn fis rhy dda i ddynion Steve Tandy. Ar ddechrau’r mis roedd ganddyn nhw dal eu record 100% yn y Pro 12.

Ond erbyn iddyn nhw groesawu Racing Metro i’r Liberty dydd Sadwrn, mae’r record yna’n hanes bellach.

Er eu bod nhw wedi colli dwy gêm yn olynol (oddi cartref yn Iwerddon mae’n rhaid cofio) mae’r Gweilch dim ond un pwynt tu ôl i Munster ar frig y tabl.

Gan edrych ar Ewrop chafodd y Gweilch lawer o lwc yn eu grŵp, sydd yn cynnwys cyn-bencampwyr Ewrop a Lloegr Northampton Saints yn ogystal â Racingmen Jacky Lorenzetti.

Er hyn oll maent wedi sicrhau pum pwynt o’u dwy gêm agoriadol wedi buddugoliaeth swmpus dros Treviso yn y rownd gyntaf.

Ni fydd Jeff Hassler ar gael i’r Gweilch ar gyfer y ddwy gêm i ddod yn erbyn Racing-Metro, na gweddill y tymor mae’n debyg, gan ei fod wedi dioddef anaf difrifol i’w ben-glin.

Mae Hassler wedi bod yn rhan fawr o ddechrau cryf y Gweilch gan sgorio pedwar cais yn y gynghrair. Mi fydd yn dasg iddynt i guro les Ciels et blancs (Y crysau glas golau a gwyn) sydd yn bedwerydd yn Top 14 Ffrainc. Bydd Dan Biggar yn allweddol brynhawn Sadwrn.



Y Scarlets –
Soniais fod gan y Gweilch dasg Ewropeaidd enfawr uchod, ond mae’r dasg sydd gan ddynion Wayne Pivac deg gwaith yn fwy.

Mewn grŵp sy’n cynnwys Teigrod Caerlŷr a RC Toulon, heb anghofio am Ulster, roedd nifer yn disgwyl iddynt godi cywilydd ar eu hunain yng Nghwpan Ewrop eleni.

Mae’r stori wedi bod yn un eithaf gwahanol, gyda’r tîm yn curo Caerlŷr yn eu hail gêm a dangos digon o angerdd a chymeriad lawr yn Stade Felix-Mayol yn y gêm gyntaf er iddyn nhw golli o 28-18.

Mae enw Scott Williams dal i godi ofn ar gefnogwyr Toulon wedi’r prynhawn Sul hwnnw o Hydref. Dros y ddau benwythnos i ddod bydd y cochion yn teithio i Belffast ac yna yn croesawu Ulster i Barc y Scarlets.

Yn wahanol i’r Gweilch, gwelaf Ulster yn wrthwynebwyr haws na’r Ffrancwyr, ond mae’r Kingspan (yr hen Ravenhill) ar ei newydd wedd wedi cadw ei gymeriad clos, swnllyd a bygythiol i unrhyw dîm sy’n teithio yno.

Cwpan Her Ewrop


Y Gleision –
Mae perfformiadau a chanlyniadau’r Gleision yn Ewrop eleni yn hollol wahanol i’r hyn sydd wedi digwydd yn y Pro12.

Ar ôl curo Rovigo a Grenoble gan sgorio dros bedair cais yn y ddwy gêm mae’r Gleision yn ail yn eu grŵp ar sail ceisiau tu ôl i Wyddelod Llundain, eu gwrthwynebwyr dros y pythefnos nesaf yma.

Mae Gareth Anscombe wedi’i gofrestru i chwarae yn Ewrop wedi cyrraedd y brifddinas lai na mis yn ôl.

Fe ymunodd yr olwr amryddawn o’r Chiefs a thalaith Waikato, ac mae eisoes wedi cael 120 munud o rygbi ar dir Ewropeaidd.

Mae angen sbarc o ryw fath ar Mark Hammett a’i ‘wyrddion’ (crys gwyrdd gwahanol sydd ganddynt ar gyfer gemau Ewropeaidd eleni) a dw i’n teimlo mai Anscombe yw’r ateb. Ond a yw ei ddyfodiad i Gymru yn fygythiad i Rhys Patchell ifanc?


Y Dreigiau –
Roedd curo Stade Francais ym Mharis ar ddechrau mis Hydref yn adlewyrchu potensial carfan Lyn Jones i berfformio ar lefel uchel dros ben.

Roeddwn i, fel sawl cefnogwr rygbi, yn gobeithio y byddai’r fuddugoliaeth wedi bod yn gam yn y cyfeiriad cywir i ddynion Gwent, ond yr wythnos ganlynol fe deithion nhw i Newcastle a cholli.

Er y golled mae chwe phwynt o’r ddwy gêm agoriadol yn barchus dros ben, yn enwedig o ystyried y gwrthwynebwyr dros y ddau benwythnos sydd i ddod, Bleiddiaid Bwcarest.

Bydd disgwyl o leiaf wyth pwynt allan o’r ddwy gêm yma, gan adael Stade Francais a Newcastle i frwydro ymysg ei gilydd. Roedd Angus O’Brien yn allweddol i’r fuddugoliaeth ym Mharis ac mae’r gystadleuaeth rhwng Jason Tovey ag ef yn ddiddorol dros ben.

Gyda Taulupe Faletau nôl wedi mis prysur gyda Chymru, ai’r Dreigiau fydd yn cychwyn mis Rhagfyr ar y nodyn gorau ymysg ein rhanbarthau ni?