Mae’r Scarlets wedi croesawu saith o chwaraewyr Cymru nôl i’r tîm wrth iddyn nhw baratoi i herio Ulster yng Nghwpan Ewrop ddydd Sul.

Bydd Liam Williams yn dechrau fel cefnwr, mae Scott Williams nôl yn y canol, a Rhys Priestland fydd yn chwarae fel maswr.

Mae Rob Evans, Emyr Phillips a Samson Lee i gyd yn dychwelyd i’r rheng flaen, ac mae Jake Ball nôl yn yr ail reng.

Fe fydd angen buddugoliaeth ar y Scarlets draw yn Iwerddon os ydyn nhw eisiau cadw’u gobeithion o aros yn y gystadleuaeth yn fyw.

Ar hyn o bryd mae Bois y Sosban yn ail yn y tabl ar ôl colli i Toulon a churo Caerlŷr, ond mae Ulster wedi colli’u dwy gêm hyd yn hyn.

“Mae’n wych cael bechgyn Cymru nôl, yn enwedig ar ôl y fuddugoliaeth yna dros Dde Affrica,” meddai prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac.

“Maen nhw wedi dychwelyd yn llawn hyder.”

Tîm y Scarlets: Liam Williams, Harry Robinson, Regan King, Scott Williams (capt), Michael Tagicakibau, Rhys Priestland, Aled Davies; Rob Evans, Emyr Phillips, Samson Lee, Jake Ball, Johan Snyman, Aaron Shingler, James Davies, Rory Pitman.

Eilyddion: Kirby Myhill, Phil John, Rhodri Jones, George Earle, Lewis Rawlins, Rhodri Williams, Steven Shingler, Gareth Owen.