Kyle Bartley (o wefan Abertawe)
Mae Kyle Bartley wedi mynnu nad yw Abertawe’n poeni am fygythiad rhai o chwaraewyr West Ham yn yr awyr, wrth i’r ddau dîm baratoi i herio ei gilydd dydd Sul.

Bydd gan amddiffynwyr yr Elyrch brynhawn prysur o’u blaenau os ydyn nhw’n gorfod wynebu ymosodwr yr Hammers Andy Carroll unwaith eto.

A chyda’r ddau dîm yn saith uchaf y gynghrair ar hyn o bryd, mae’r disgwyliadau wedi codi ar dimau Garry Monk a Sam Allardyce i geisio cipio pwyntiau.

Pen tost i Abertawe

Sgoriodd Andy Carroll y gôl fuddugol yn erbyn Abertawe ddwy flynedd yn ôl, a chreu dwy gôl mewn buddugoliaeth arall ym mis Chwefror cyn gweld cerdyn coch am drosedd yn erbyn rhagflaenydd Bartley, Chico Flores.

Mae Kyle Bartley yn disgwyl i’r ymosodwr tal a chryf fod yn llond llaw unwaith eto – ond mae’n hyderus o ennill y frwydr yn yr awyr.

“Does gyda ni ddim i’w ofni, boed e’n Andy Carroll neu bwy bynnag yr ’yn ni’n ei wynebu yn yr Uwch Gynghrair,” meddai’r amddiffynnwr canol.

“R’yn ni’n gwybod beth sydd angen ei wneud yn erbyn chwaraewyr penodol a gobeithio mai dyna wnawn ni.”

Rhediad da

Fe allai Abertawe godi mor uchel â’r pedwerydd safle yn y gynghrair os ydyn nhw’n ennill ym Maes Boleyn ddydd Sul.

Mae’r tîm ar rediad da eisoes gan golli dim ond un o’u chwe gêm ddiwethaf – ac roedd honno oddi cartre’ yn erbyn y pencampwyr Manchester City.

Ond dyw Bartley ddim yn credu bod safle’r tîm yn y gynghrair yn bwysig tan y flwyddyn newydd.

“Mae’r wyth neu naw gêm dros gyfnod y Nadolig yn mynd i fod yn allweddol,” ychwanegodd. “Ar ôl hynny fe allwn ni weld ble r’yn ni.”

‘Brawd mawr’

Fe fydd Kyle Bartley yn gobeithio cadw’i le wrth ymyl Ashley Williams yng nghanol yr amddiffyn, er bod Jordi Amat a Federico Fernandez nawr yn ffit unwaith eto.

Ac mae’r cefnwr yn mwynhau chwarae ochr yn ochr â chapten Cymru ar hyn o bryd.

“Mae Ash yn grêt, mae e fel brawd mawr i mi ar ac oddi ar y cae,” meddai Bartley.

“Mae’n grêt chwarae gyda fe a fi’n credu ein bod ni’n ffurfio partneriaeth gref iawn.”