Jade Jones
Mae’r Gymraes Jade Jones wedi cael ei choroni yn bencampwraig byd unwaith eto, ar ôl ennill cystadleuaeth Grand Prix y Byd ym Mecsico.
Llwyddodd yr ymladdwraig taekwondo i drechu Eva Calvo Gomez, rhif un y byd, yn y ffeinal yn Queretaro nos Iau – y tro cynta’ iddi ennill y gystadleuaeth.
Mae’n golygu bod gan y Gymraes dlws arall i’w ychwanegu at ei chasgliad, sydd hefyd yn cynnwys medal aur o Gemau Olympaidd Llundain yn 2012.
Ymosod o’r cychwyn
Roedd yn fuddugoliaeth bersonol bwysig i Jade Jones hefyd, gan ei bod hi wedi colli i Gomez nifer o weithiau mewn gornestau Grand Prix yn y gorffennol.
Fe ymosododd y ferch 21 oed o’r Fflint o ddechrau’r ornest, gan ddefnyddio’r apêl fideo i sgorio dau bwynt gwerthfawr yn erbyn ei gwrthwynebydd o Sbaen.
Roedd Jones 7-0 ar y blaen erbyn dechrau’r drydedd rownd ac, er i Gomez ymladd yn ôl a’i gwneud hi’n 7-3, doedd hynny ddim yn ddigon.
‘Gwych’ meddai Jade
“Mae’n wych i ennill Grand Prix o’r diwedd,” meddai’r Gymraes ar ddiwedd yr ornest.
“Mae Eva yn wrthwynebydd caled ac ni wedi cael brwydrau gwych yn y gorffennol. Nes i ddweud wrth fy hun am ymlacio, mwynhau fy hunan fwy a cheisio meddwl am [Gemau Olympaidd] Rio fel y prif darged.
“Mae’n grêt gorffen y flwyddyn ar nodyn uchel ac allai ddim aros i fynd adre i ddathlu gyda fy nheulu a’n ffrindiau.”