Fe all addewid Llywodraeth Cymru i ddarparu gwersi nofio Cymraeg i bob plentyn fod yn “ddi-werth” yn 14 o siroedd Cymru yn sgil preifateiddio, meddai Cymdeithas yr Iaith.
Maen nhw’n ymateb i waith ymchwil sydd wedi dangos bod 14 allan o’r 19 awdurdod a roddodd atebion i’r ymchwilwyr yn ystyried cyflogi cwmni preifat i gynnal eu gwasanaethau hamdden.
O ganlyniad, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i egluro’r sefyllfa gyfreithiol ynglŷn â chyflogi gwasanaethau allanol.
Y Safonau
Mae’r Safonau Iaith – canllawiau i egluro i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau o ran y Gymraeg – yn cynnwys cymalau sydd i fod i sicrhau gwersi nofio Cymraeg.
Ond dyw’r safonau ddim yn cynnwys dyletswydd i gynnwys amodau iaith wrth rannu grantiau nac wrth gontractio gwasanaeth allanol.
Fe fydd ymgynghoriad ar y Safonau yn cau heddiw ac mae bwriad i gyflwyno’r set gyntaf gerbron y Cynulliad ym mis Mawrth 2015.
Gwendid
Mae’r mudiad yn dadlau bod y diffyg amodau iaith ar gontractau a grantiau o fewn y Safonau yn groes i strategaeth iaith y Llywodraeth, ac i gyngor Comisiynydd y Gymraeg.
“Mae’n bwysig bod hawl i bob plentyn yn y wlad allu mwynhau’r iaith mewn cyd-destun cymdeithasol o’r fath – ddylai mannau gwan cyfreithiol ddim bod yn ffactor,” meddai’r Gymdeithas.
“Fodd bynnag, mae pryder mawr y gallai addewid y Llywodraeth i gyflwyno gwersi nofio Cymraeg fod yn ddiwerth mewn nifer fawr o ardaloedd.”
Meddai llefarydd Llywodraeth Cymru:
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r ymgynghoriad ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg dal ar agor. Rydym wedi ymgynghori gyda’n partneriaid a byddwn yn ystyried yr holl ymatebion dros yr wythnosau nesaf.”