Gerald Davies
Gerald Davies yw cadeirydd newydd cynghrair rygbi’r PRO12.

Mae’r Cymro’n disodli Andy Irvine, sydd wedi bod wrth y llyw ers 2010.

Ers i’w yrfa ddisglair fel chwaraewr ddod i ben, fe fu Davies yn rheolwr y Llewod ar y daith i Dde Affrica yn 2009 ac yn Gadeirydd y Llewod o 2009 i 2014.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd mewn datganiad: “Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Gadeirydd y PRO12.

“Mae PRO12 Guinness yn mynd o nerth i nerth ar y cae ac oddi ar y cae gyda chynulleidfaoedd teledu a thorfeydd yn cynyddu’n raddol o flwyddyn i flwyddyn.

“Gwnaeth 119 o chwaraewyr rhyngwladol o PRO12 Guinness gynrychioli eu gwledydd yng ngemau rhyngwladol yr hydref, gan ddangos dyfnder ac ansawdd ein cystadleuaeth.”

Dywedodd prif weithredwr y PRO12, John Feehan: “Mae’n fraint cael Gerald Davies yn Gadeirydd arnon ni.
“Mae ei ddealltwriaeth o rygbi’n rhagorol.

“Mae Gerald yn ymgorffori ethos a thraddodiad rygbi ac yr un pryd, mae ganddo brofiad helaeth o lywodraethu ein camp.

“Hoffwn, ar ran y bwrdd, ddiolch i Andy Irvine am ei flynyddoedd o wasanaeth fel Cadeirydd y PRO12.”