Mae bil newydd wedi cael ei basio yn Seland Newydd er mwyn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i drefnu canlyniadau gemau criced ymlaen llaw.

Mae’r bil wedi’i gyflwyno yn barod ar gyfer Cwpan y Byd yn Seland Newydd ac Awstralia’r flwyddyn nesaf, lle mae disgwyl i’r awdurdodau graffu ar berthynas chwaraewyr â bwcis.

Mae Cwpan Pêl-droed y Byd dan 20 yn cael ei gynnal yn Seland Newydd y flwyddyn nesaf hefyd.

O dan y ddeddfwriaeth newydd, fe allai troseddwyr wynebu hyd at saith mlynedd yn y carchar.

Dywedodd Gweinidog Chwaraeon Seland Newydd, Jonathan Coleman: “Mae trefnu canlyniadau’n broblem ryngwladol sy’n tyfu a dyma’r prif fygythiad i onestrwydd, gwerth a thwf chwaraeon.

“Yn Seland Newydd, does gennym ni ddim imiwnedd i’r bygythiad cynyddol hwn.”

Cafodd batiwr Seland Newydd Lou Vincent ei wahardd rhag chwarae am oes ym mis Gorffennaf wedi i’r awdurdodau ei ganfod yn euog o drefnu canlyniadau nifer o gemau.

Ymddangosodd cyn-chwaraewr amryddawn Seland Newydd, Chris Cairns yn y llys yn Llundain ym mis Hydref, wedi’i gyhuddo o ddweud celwydd yn ystod achos llys yn erbyn sylfaenydd cystadleuaeth yr IPL yn India, Lalit Modi.

Yn ystod yr achos, dywedodd Cairns nad oedd erioed wedi trefnu canlyniadau gemau, ond cafodd y datganiad ei wrthbrofi’n ddiweddarach.