Neil Taylor
Bydd tîm pêl-droed Abertawe’n herio tîm o sêr ffilmiau Bollywood mewn gêm bêl-droed 5 bob ochr yn ystod taith i ddinas Mumbai yr wythnos nesaf.
Bwriad y daith yw hyrwyddo’r Uwch Gynghrair ymhlith cefnogwyr yn India.
Neil Taylor, cefnwr chwith Abertawe, yw’r unig chwaraewr o dras Indiaidd yn yr Uwch Gynghrair.
Mae disgwyl i hyd at 24,000 fynychu’r digwyddiad deuddydd yng nghanolfan MMRDA Bandra-Kurla ar Ragfyr 13 a 14.
Yn ystod y digwyddiad, fe fydd cyfle i gefnogwyr gyffwrdd â thlws yr Uwch Gynghrair, dysgu mwy am holl glybiau’r Uwch Gynghrair, cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi sydd wedi’u trefnu gan hyfforddwyr y clybiau a gwylio rhai o gemau’r Uwch Gynghrair ar sgriniau mawr.
Cafodd mam Neil Taylor ei geni yn India, a dywedodd y chwaraewr ei fod yn edrych ymlaen at y profiad o gymryd rhan yn y digwyddiad.
“Mae’n wych gweld y clwb yn teithio i India. Daw’r daith ddiweddaraf yma ar ôl i fi deithio i ddinas Kolkata’r llynedd.
“I fi, mae cael bod yr unig chwaraewr o dras Indiaidd yn yr Uwch Gynghrair yn rhywbeth dw i’n falch ohono, ac rwy’n teimlo ers blwyddyn neu ddwy fod proffil pêl-droed ar gynnydd yn India.”
Bydd cyn-ymosodwr Abertawe, Lee Trundle ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan yn y gêm 5 bob ochr.