Fe allai asgellwr y Gweilch Jeff Hassler fod allan am hyd at bum mis wedi i’r rhanbarth gadarnhau bod angen llawdriniaeth ar ei ben-glin.

Cafodd Hassler ei anafu wrth chwarae dros Ganada yn erbyn Rwmania pythefnos a hanner yn ôl.

Yn ôl rheolwr perfformiad meddygol y Gweilch Chris Towers mae’r asgellwr wedi cael anaf sylweddol i gymalau ei ben-glin ac felly doedd dim dewis ond mynd o dan y gyllell.

“Cafodd Jeff anaf i gymalau medial y ben-glin ac ar ôl ei archwilio roedd hi’n amlwg mai’r peth gorau i’w wneud oedd cael llawdriniaeth,” esboniodd Chris Towers.

“Fe fydd yn cael y driniaeth yr wythnos hon ac rydyn ni’n disgwyl y bydd yn cymryd hyd at bum mis i wella.”

Fe ymunodd Hassler â’r Gweilch yn 2013, a sgorio wyth cais mewn 26 gêm yn ei dymor cyntaf.

Mae wedi parhau i wneud argraff eleni, gan sgorio pum cais mewn naw gêm wrth i’r Gweilch gael dechrau da i’r tymor hwn.