Mae Caerdydd wedi cadarnhau eu bod wedi diddymu cytundeb yr amddiffynnwr Juan Cala.

Cafodd y Sbaenwr ei anfon i ymarfer gyda’r tîm ieuenctid yr wythnos diwethaf, ar ôl ffraeo gyda phobl o fewn y clwb, ac mae nawr wedi cytuno i adael Caerdydd yn syth.

Yn gynharach heddiw fe bostiodd Juan Cala neges ar ei gyfrif Twitter yn ymddiheuro am feirniadu perchennog y clwb Vincent Tan, gan ddweud nad oedd Tan unrhyw beth i’w wneud â’r penderfyniad i’w anfon i’r tîm ieuenctid.

Cafodd Cala ei arwyddo gan cyn-reolwr Caerdydd Ole Gunnar Solskjaer ym mis Ionawr, ond dyw e ddim wedi bod yn y tîm ers i Russell Slade gael ei benodi ym mis Hydref.

Dywedodd y chwaraewr yn ddiweddar ei fod wedi cael cynigion i adael Caerdydd yn yr haf ar ôl iddyn nhw ddisgyn i’r Bencampwriaeth, gyda chlybiau yn Sbaen ar ei ôl.