Tito Tebaldi
Mae’r Gweilch wedi cadarnhau fod y mewnwr Tito Tebaldi wedi gadael y rhanbarth a symud i glwb yr Harlequins yn Lloegr, ar ôl cyfnod siomedig yng Nghymru.

Fe dreuliodd yr Eidalwr, sydd ag ugain o gapiau dros ei wlad, bron i flwyddyn a hanner gyda’r Gweilch ar ôl arwyddo o Treviso yn 2013.

Dim ond 19 o weithiau y mae wedi chwarae dros y rhanbarth yn y cyfnod hwnnw, fodd bynnag, gan sgorio un cais.

Y tro diwethaf i’r gŵr 27 oed ymddangos yng nghrys y Gweilch oedd fel eilydd yn erbyn y Saracens yng Nghwpan LV.

Dywedodd y rhanbarth mewn datganiad eu bod yn dymuno pob lwc i Tebaldi ar gyfer y dyfodol.