Mae canolwr newydd y Scarlets Hadleigh Parkes wedi cyfaddef ei fod yn edrych ymlaen at brofi awyrgylch arbennig torf rygbi yng Nghymru.

Fe gadarnhaodd y rhanbarth o Lanelli ddoe eu bod wedi arwyddo Parkes o glwb Auckland Rugby yn Seland Newydd, ac fe fydd yr olwr 27 oed yn dechrau ymarfer â’r garfan fory.

Mae Parkes yn gyn-gapten ar dîm Auckland, ac mae hefyd wedi chwarae i’r Hurricanes, Blues a’r Southern Kings yng nghynghrair Super 15 hemisffer y de.

‘Tebyg i gartref’

Ni fydd y gŵr o Seland Newydd yn cael cyfle i weld y Scarlets yn chwarae o flaen torf gartref y penwythnos hwn, gan eu bod yn teithio i Ulster yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop dydd Sadwrn.

Ond dyw e methu aros am ei gêm gyntaf ym Mharc y Scarlets, gan ddweud ei fod yn disgwyl y bydd yn eithaf tebyg i’r awyrgylch sydd i’w gael nôl yn ei wlad enedigol.

“Fi’n falch iawn i fod yma, mae’n grêt gweld yr haul yn tywynnu ac mae’r cyfleusterau yn edrych yn wych yma,” meddai Hadleigh Parkes wrth siarad am y tro cyntaf ar ôl arwyddo gyda’r Scarlets.

“Dw i wedi cael tymor hir ond fe orffennodd tymor yr ITM pedair neu bum wythnos yn ôl felly dw i wedi cael digon o amser bant, fi’n barod i ddechrau eto nawr.

“Mae Cymru yn debyg i Seland Newydd o ran pobl sydd mor frwdfrydig am rygbi. Does dim ond rhaid i chi edrych ar y teledu gyda’r holl ganu yna. Mae’r gefnogaeth maen nhw’n ei gael yn edrych yn wych.”