Ki Sung-yeung a sgoriodd y gol gyntaf
Mae rheolwr Abertawe Garry Monk wedi disgrifio perfformiad ei dîm neithiwr fel un gorau’r tymor, ar ôl iddyn nhw drechu QPR 2-0 yn Stadiwm Liberty.
Ar ôl hanner cyntaf di-sgôr, roedd goliau hwyr Ki Sung-yeung a Wayne Routledge yn ddigon i sicrhau tri phwynt i’r Elyrch.
Maen nhw nawr wedi codi i chweched yn nhabl yr Uwch Gynghrair, a dydd Sul fe fyddwn nhw’n teithio i West Ham sydd yn bumed.
Clod gan Monk
Er na lwyddodd Abertawe i sgorio yn erbyn QPR tan 78ain munud y gêm, roedd Garry Monk yn llawn canmoliaeth am berfformiad y tîm dros y 90 munud.
“Y neges ar yr egwyl oedd parhau i symud y bêl yn gyflym ac ymosod â phwrpas,” meddai’r rheolwr.
“Roeddwn i’n teimlo y bydden ni’n sgorio un neu ddau petai ni’n creu cyfleoedd fel y gwnaethon ni yn yr hanner cyntaf.
“Fe wnaethon ni hynny ac roedden ni’n haeddu o leiaf dwy gôl a llechen lân.
“Mae pobl yn siarad am ein buddugoliaethau yn erbyn Man United ac Arsenal, ond fi’n edrych ar y manylion a hwnna oedd y perfformiad mwyaf cyflawn fi wedi gweld gennym ni’r tymor yma.”