Ray Williams, cyn-Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru
Mae cyn-Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru, Ray Williams wedi marw yn 87 oed.
Bu’n dioddef o ganser.
Bydd Williams yn cael ei gofio am ei waith arloesol ym myd rygbi Cymru, wedi iddo gael ei benodi’n drefnydd hyfforddi cynta’r byd yn 1967.
Ym mis Hydref, derbyniodd Williams wobr Vernon Pugh gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol am ei gyfraniad oes.
Yn ystod ei yrfa gydag Undeb Rygbi Cymru, fe fu’n Swyddog y Canmlwyddiant ac yn Ysgrifennydd cyn ymddeol yn 1988.
Fel chwaraewr, cynrychiolodd glybiau Cymry Llundain a Northampton.
Teyrngedau
Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis fod Williams wedi “dylanwadu ar nifer o genedlaethau ac wedi’u hysbrydoli drwy ei angerdd a’i ymrwymiad felly fe fydd nifer di-ri o ddilynwyr ein camp ni sy’n caru’r gêm oherwydd Ray.
“Roedd bob amser yn bleser cael croesawu Ray i Stadiwm y Mileniwm ar ddiwrnodau gemau rhyngwladol fel ffrind a chwmnïwr rygbi hyfryd.
“Parhaodd yn feddyliwr cyfoes ac arloesol a bydd pawb yn teimlo colled ar ôl ei safbwyntiau a’i ddylanwad ar rygbi.”
Ychwanegodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies: “Rwy am gynnig fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Ray yn y cyfnod trist hwn i ni i gyd.
“Ro’n i’n adnabod Ray drwy gydol fy mywyd rygbi ac yn bersonol, mae arna i ddyled iddo am y dylanwad positif a gafodd ar fy ngyrfa fy hunan drwy ei gyrsiau rygbi yn yr haf.
“Byddaf yn gweld eisiau ei fewnwelediad ysbrydoledig a’i wybodaeth am y gêm, ei datblygiad a’i dyfodol.
“Chwaraeodd ran flaenllaw wrth siapio rygbi, nid yn unig yng Nghymru ond ymhell tu hwnt a gall ei deulu ymfalchïo yn ei gyfraniad.”