Tad a brawd Phil Hughes yn cludo ei arch
Mae capten Awstralia, Michael Clarke ymhlith miloedd o alarwyr sydd wedi bod yn talu teyrnged i’r cricedwr Phil Hughes yn ei angladd.
Bu farw Hughes, 25, ar ôl cael ei daro yn ei wddf gan fownsar yn ystod gêm ddomestig rhwng De Awstralia a New South Wales.
Wrth roi teyrnged i’w gyfaill Hughes, dywedodd Michael Clarke ei fod wedi “gadael marc ar ein gêm nad oes angen ymhelaethu arno.
“Wn i ddim amdanoch chi, ond fe wnes i gadw i edrych amdano fe. Fe wn ei fod yn wallgo, ond dw i’n disgwyl derbyn galwad ganddo fe unrhyw funud neu weld ei wyneb yn dod rownd y gornel.
“Ai dyma’r hyn ry’n ni’n ei alw’n ‘ysbryd’? Os felly, mae ei ysbryd yn dal gyda fi a gobeithio na fydd e byth yn gadael.”
Dywedodd y byddai’r Sydney Cricket Ground, lle bu farw Hughes, yn dir sanctaidd am byth yn sgil y digwyddiad.
“Gorffwysed mewn hedd, fy mrawd bach. Fe wela’ i ti allan yn y canol.”
Teyrngedau’r teulu a ffrindiau
Dechreuodd y gwasanaeth gyda’r gân ‘Forever Young’, ac fe orffennodd gyda ‘Don’t Let the Sun Go Down on Me’.
Cafodd y gwasanaeth ei ddarlledu ledled Awstralia ac ar sgriniau yng nghaeau’r Adeilade Oval a’r SCG.
Yn yr SCG, cafodd 63 o fatiau criced eu gosod allan, a phob un yn nodi achlysur arbennig yng ngyrfa Phil Hughes.
‘Unigryw’
Wrth dalu teyrnged i’w gefnder, dywedodd Nino Ramunno fod Phil Hughes yn “unigryw”.
Dywedodd ei fod yn “fab ei fam” a’i fod yn “aml yn treulio oriau’n ymbincio ac roedd e’n sicr wrth ei fodd o flaen drych!”
Ond dywedodd ei fod hapusaf tra’n gweithio ar fferm ei dad.
Cafodd teyrngedau eu rhoi gan ei frawd a’i chwaer hefyd, yn ogystal â nifer o ffrindiau o Macksville.
Ychwanegodd pennaeth Bwrdd Criced Awstralia, James Sutherland: “Mae calon criced wedi cael ei thorri gyda phoen, ond ni fydd fyth yn stopio curo.
“Phillip Hughes, yn fythol heb ei goncro ar 63.”
Cafodd arch Phil Hughes ei gludo trwy’r strydoedd er mwyn i’r cyhoedd talu eu teyrnged olaf.