Abertawe 2–0 Queens Park Rangers

Sgoriodd Abertawe ddwywaith yn y chwarter awr olaf wrth drechu Queens Park Rangers ar y Liberty nos Fawrth.

Di sgôr oedd hi am ran helaeth o’r gêm ond roedd goliau hwyr Ki Sung-yueng a Wayne Routledge yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r Elyrch.

Gôl-geidwad yr ymwelwyr, Rob Green, oedd yn gyfrifol am gadw’r gêm hon yn ddi sgôr cyhyd, wrth iddo arbed cynnigion Gylfi Sigurdsson, Wilfred Bony a Kyle Bartley.

Ond dim ond mater o amser oedd hi tan i oruchafiaeth yr Elyrch ddwyn ffrwyth. Crymanodd Ki y gyntaf i gefn y rhwyd ddeuddeg munud o’r diwedd.

Yna, bum munud yn unig yn ddiweddarach, fe ddyblodd Routledge y fantais gydag ergyd nerthol o bellter.

Mae’r canlyniad yn codi’r Cymry i’r chweched safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.
Abertawe
Tîm:
Fabianski, Richards, Bartley, Williams, Taylor, Britton (Shelvey 79′), Ki Sung-yueng, Routledge, Sigurdsson (Carroll 87′), Montero (Dyer 70′), Bony
Goliau: Ki Sung-yueng 78’, Routledge 83’
Cardiau Melyn: Taylor 71’, Britton 76’
.
Queens Park Rangers
Tîm:
Green, Onuoha, Dunne, Caulker, Yun Suk-young, Henry, Barton (Hoilett 80′), Vargas, Kranjcar, Fer, Austin
Cardiau Melyn: Barton 36’, Fer 57’
.
Torf: 20,145