Wrecsam 0–0 Bristol Rovers

Cafodd Wrecsam gêm gyfartal ddi sgôr ar y Cae Ras nos Fawrth er iddynt chwarae hanner y gêm yn erbyn Bristol Rovers gyda deg dyn.

Er bod y Dreigiau’n croesawu’r tîm ddechreuodd y noson yn ail yn y tabl, roeddynt yn rheoli’r meddiant yn yr hanner cyntaf.

Yna, yn y seithfed munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner fe welodd Rob Evans gerdyn coch yn dilyn tacl wael ar Matty Taylor.

Bu rhaid i’r Dreigiau amddiffyn gyda deg dyn yn yr ail gyfnod felly ond ychydig iawn o gyfleoedd a grewyd gan yr ymwelwyr serch hynny.

Yn y pen arall fe fethodd Wrecsam a chymryd mantais o’r ffaith fod Rovers yn chwarae gyda’r amddiffynnwr, Mark McChrystal, rhwng y pyst yn dilyn anaf i’r gôl-geidwad, Steve Mildenhall.

Mae’r pwynt hwnnw’n cadw Wrecsam yn ddeuddegfed yn nhabl Cyngres Vanarama.
.
Wrecsam
Tîm:
Bachmann, White, Smith, Hudson, Ashton, Carrington, Clarke, Evans, Jennings, Bishop (Moult 88′), York (Durrell 70′)
Cerdyn Melyn: Jennings 90’
Cerdyn Coch: Evans 45’
.
Bristol Rovers
Tîm:
Mildenhall (Trotman 42′), Lockyer, McChrystal, Parkes, Brown, Della Verde (Balanta 24′), Mansell, Sinclair, Monkhouse, Blissett (Wall 70′), Taylor
Cerdyn Melyn: Blissett 54’
.
Torf: 2,608