Owain Doull
Mae Owain Doull wedi cadarnhau ei fod wedi gwrthod cynnig i arwyddo â thîm Ffrengig Europcar er mwyn canolbwyntio ar gyrraedd y Gemau Olympaidd.

Cafodd y Cymro 21 oed gynnig i seiclo ar y World Tour gyda Europcar yn 2015, tîm sydd yn cynnwys beicwyr fel Thomas Voeckler, Pierre Rolland a Bryan Coquard.

Ond dywedodd nad oedd yn teimlo mai arwyddo â thîm proffesiynol fyddai’r cam gorau iddo gymryd ar hyn o bryd.

“Fydda’i ddim yn camu lan [i’r World Tour] eleni,” meddai Doull wrth The Guardian.

“Rydw i eisiau troi yn pro ond falle nad tîm fel yna yw’r lle gorau i fynd os nad ydych chi’n siŵr eich bod chi’n barod.”

Tîm newydd?

Fe fydd Owain Doull yn rhan o dîm seiclo Prydain ar gyfer Cwpan y Byd yn Llundain dydd Gwener, ond dyw e ddim wedi cadarnhau beth yw ei gynlluniau rasio ar gyfer y flwyddyn nesaf eto.

Mae’n bosib y bydd yn arwyddo i dîm Prydeinig newydd fydd yn cael ei sefydlu’r flwyddyn nesaf a’i hadeiladu o gwmpas cyn-enillydd y Tour de France, Bradley Wiggins.

Bwriad y tîm fydd paratoi Wiggins ac eraill ar gyfer rasys yng Ngemau Olympaidd Rio de Janeiro ym Mrasil yn 2016.