Gwyn Jones
Nid yw Cymru wedi blasu buddugoliaeth dros y Crysau Duon ers 1953, ac nid yw Dr Gwyn Jones yn disgwyl unrhyw dro ar fyd yfory yn Stadiwm y Mileniwm…

Mae’n ymddangos bod y disgwyliadau lawer yn is eleni ac mai ychydig yw’r rhai sy’n credu y gall Cymru guro’r Crysau Duon.

Fel arfer, mae yna lawer mwy o sôn a siarad cyn gêm brawf yr hydref am obaith Cymru i drechu Seland Newydd am y tro cyntaf ers degawdau, ond nid eleni.

Mae hyn yn rhannol oherwydd nad oes digon o botensial i gorddi’r dyfroedd yn dilyn perfformiad Cymru yn eu gêm ddiwethaf.

Nid yw Cymru wedi llwyddo curo tîm gwirioneddol dda ers amser maith. Cafwyd fflachiadau o’u potensial ond mae pawb yn gwybod bod angen llawer mwy na hynny i drechu’r Crysau Duon.

Drwy gydol yr hydref, mae Gatland wedi amlygu’n fwriadol ac yn gyson bod y gyfres hon yn rhan o daith sy’n dirwyn i ben ymhen blwyddyn pan gynhelir Cwpan Rygbi’r Byd 2015.

Er na ddywedodd hynny’n benodol, rwy’n cael yr argraff fod y pwyslais ar berfformiad yn hytrach na chanlyniadau yn ystod mis Tachwedd.

Credaf ein bod ni’n gweld newid mawr yn y ffordd mae Cymru’n ceisio chwarae ac mae’r hyfforddwyr yn cydnabod na fydd llwyddiant yn dod dros nos.

Dyna’r rheswm pan ymddangosodd Gatland mor fodlon gyda sawl agwedd o berfformiad Cymru yn erbyn Awstralia.

Er mai colli’r gêm wnaeth Cymru, roedd hi hefyd yn dynodi newid yn strwythur ac arddull y chwarae i Gatland ac yn cynnig gobaith i’r dyfodol.

Roedd y gêm yn erbyn Fiji yn drychinebus. Rwy’n gwybod bod nifer yn beio cynllun y gêm neu’r tactegau, ond credaf fod hynny’n anghywir. Dych chi ddim yn gallu asesu cynllun y gêm os ydych chi’n colli’r bêl o hyd.

Roedd hi’n berfformiad gwarthus a doedd dim pwynt cweryla gyda’r dyfarnwr pan mai diffygion Cymru oedd ar fai.

Felly, ar ôl awgrymu mai dyma’r flwyddyn o newid a datblygu ffordd newydd o chwarae, roedd hi’n dipyn o syndod i fi bod Cymru’n ymddangos eu bod nhw’n dibynnu ar yr un hen wynebau ar gyfer y gêm hon.

Seren yr hydref mor belled yw Liam Williams ond mae e wedi ei roi ar y fainc.

Mae ganddo’i wendidau, wrth gwrs, a dyw e ddim yn berffaith. Weithiau, mae’n cael ei demtio ac yn cael ei ddal, ond ar adegau eraill mae’n dianc o’r trap ac mae’r gêm yn agor mas.

Dylwn ni ddim anghofio bod Leigh Halfpenny wedi bod wrth galn llwyddiant Cymru. Mae’n giciwr gôl penigamp yn daclwr di-ofn ac yn dal ei nerf o dan bwysau.

Efallai bod Halfpenny yn fet saffach mewn gornest gicio yn erbyn y Crysau Duon, ond does dim amheuaeth ei fod o dan bwysau i gadw ei le yn y garfan.

Mae modd gwneud yr un ddadl am Lydiate a Tipuric yn y rheng ôl. Os yw Cymru’n benderfynol o chwarae rygbi mewn ffordd fwy agored a llyfn, yna dylen nhw gael eu rhedwyr gorau ar y cae.

Mae’n bosib dadlau mai Justin Tipuric a Liam Williams yw’r chwaraewyr mwyaf naturiol yn nhîm Cymru pan mae’r gêm yn un fwy agored.

Mae Awstralia a Seland Newydd eisoes wedi chwarae gyda dau flaenasgellwr ochr agored, felly os yw gwneud hyn yn ddigon da iddyn nhw, fe wnaiff e’r tro i ni.

Rwy’n credu bydd Cymru’n ôl ar y trywydd iawn ar ôl gêm Ffiji a bydd ganddynt y cymhelliant a’r ysfa gystadleuol i wneud i’r Crysau Duon weithio’n galed am eu buddugoliaeth.

Yr unig obaith am fuddugoliaeth i Gymru yw i Seland Newydd gael diwrnod gwael, ac yn anffodus fe ddigwyddodd hynny ddydd Sadwrn diwethaf. Mae un perfformiad gwael yn beth digon prin, ond mae dau yn annhebygol iawn.

Rwy’n credu mai Seland Newydd fydd yn ennill o 10 pwynt.