Hallam Amos
Fe fydd Hallam Amos yn dechrau i’r Dreigiau heno yn erbyn Munster ar ôl i Gymru ei ryddhau o’r garfan ryngwladol.

Mae Lyn Jones wedi gwneud pedwar newid i’r tîm roddodd grasfa i’r Gweilch yn y gêm a welodd gwledd o geisiau y penwythnos diwethaf.

Yn ogystal ag Amos mae’r mewnwr Richie Rees, y prop Dan Way a’r blaenasgellwr Nic Cudd yn dod i mewn i’r tîm.

Y clo Rynard Lyndman o Dde Affrica fydd yn arwain y tîm unwaith eto, wrth i’r Dreigiau geisio sicrhau eu hail fuddugoliaeth o’r tymor yn y Pro12.

Tîm y Dreigiau: Geraint Rhys Jones, Tyler Morgan, Ross Wardle, Ashley Smith, Hallam Amos, Dorian Jones, Richie Rees; Brok Harris, Elliot Dee, Dan Way, Cory Hill, Rynard Landman (capt), James Thomas, Nic Cudd, Lewis Evans.

Eilyddion: T. Rhys Thomas, Owen Evans, Lloyd Fairbrother, Matthew Screech, Ollie Griffiths, Jonathan Evans, Jason Tovey, Ashton Hewitt.