Wayne Routledge
Mae’r asgellwyr Wayne Routledge a Nathan Dyer wedi gwella o anafiadau ac mae disgwyl gweld y ddau yn nhîm Abertawe i herio Manchester City yfory.

Bydd y chwaraewr canol cae Jonjo Shelvey hefyd yn dychwelyd i’r tîm ar ôl methu’r fuddugoliaeth ddiwethaf yn erbyn Arsenal yn dilyn ei gerdyn coch yn Everton.

Mae Jordi Amat a Leon Britton bellach hefyd yn holliach ar ôl anafiadau, ond fydd y cefnwr Federico Fernandez ddim ar gael ar ôl iddo frifo cyhyr yn ei goes.

Ar ôl iddo arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb yn ddiweddar, mae Wilfried Bony hefyd wedi dychwelyd o ddyletswydd ryngwladol gyda’r Traeth Ifori i arwain y llinell flaen.

Yr unig chwaraewyr sydd yn absennol oherwydd anafiadau yng ngharfan Man City yw David Silva ac Edin Dzeko, ond mae amheuon hefyd dros ffitrwydd y capten Vincent Kompany.

Chwech uchaf?

Fe allai Abertawe godi i’r pedwar uchaf yn yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth neu gêm gyfartal yn Stadiwm yr Etihad.

Petaen nhw’n gorffen yn y chwech uchaf mae’n debygol y byddai’r tîm yn sicrhau lle yn un o’r cystadlaethau Ewropeaidd am yr ail dro mewn tri thymor.

Ond mae’r rheolwr Garry Monk yn mynnu cymryd pethau un gêm ar y tro gyda chymaint o’r tymor yn weddill.

“Rydyn ni jyst yn edrych ar Man City ac yn rhoi popeth i mewn i hwnnw. Pwy a ŵyr os allwn ni aros yn y chwech uchaf.

“Rydyn ni’n realistig ac mae timau oddi tanom ni â llawer mwy o arian, ond yr unig beth fi’n poeni am yw cystadlu yn erbyn y timau hyn, ac rydyn ni’n cystadlu ar hyn o bryd.”